Ein Hamcan
Amcan Partneriaeth y Grug a'r Caerau yw cydweithio er mwyn:
- Cynnal a chadw treftadaeth rhostiroedd grug a chaerau Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio, gan ddangos amaethyddiaeth gynaliadwy sy'n gydnaws â thirwedd sydd o werth hanesyddol a bioamrywiaeth arbennig
- Ail-gysylltu pobl â'r ucheldiroedd a chynyddu'u mwynhad o'u treftadaeth drwy addysgu, dehongli, a chynnal digwyddiadau a mentrau datblygu cynulleidfa
- Cynyddu'r wybodaeth o'n treftadaeth caerau a rhostiroedd a fydd yn darparu sylfaen ar gyfer projectau rheoli, adfer a dehongli
Tirwedd Neilltuol
Tirwedd sy'n arbennig o hardd yw Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio, dilladwyd â lliwiau porffor blodau'r grug. Yng ngogledd-ddwyrain Cymru mae'r ardal hon. Crëwyd o laid a thywod a adawyd ar wely môr a oedd yn gorchuddio'r ardal hon tua 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Cododd y creigiau drwy symudiadau'r ddaear gan greu mynyddoedd a bryniau oedd â dyffrynnoedd rhyngddynt a luniwyd drwy symudiadau rhewlifoedd.
Yn ystod Oes yr Haearn, tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, adeiladodd pobl bentrefi amddiffynnol ar ben Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio, gan fanteisio ar y dirwedd a grëwyd gan y digwyddiadau daearegol a fu filiynau o flynyddoedd cyn hynny. Drwy adeiladu cadwyn o fryngeyrydd Oes yr Haearn sy'n ymestyn o Foel Hiraddug yn y gogledd i Gaer Drewyn yn y de-orllewin ffurfiwyd un o dirweddau hanesyddol pwysicaf Cymru. Er bod y bryngaerau Oes yr Haearn yn amlwg ar y gorwel, ychydig a wyddom am eu perthynas a'i gilydd.
Mae Project y Grug a'r Caerau yn darparu cyfle gwych i ddarganfod mwy am y dirwedd hon. Bydd y Project yn canolbwyntio ar chwech o fryngaerau sef; Pen y Cloddiau, Moel Arthur, Moel y Gaer (Llanbedr), Moel Fenlli, Moel y Gaer (Llantysilio) a Chaer Drewyn, ynghyd â safleoedd sy'n gysylltiedig oherwydd bod ynddynt gynefinoedd tebyg.
Ardal o bwysigrwydd rhyngwladol, o ran cadwraeth natur, yw'r rhostiroedd grug sy'n gorchuddio Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio, a cheir yma hawliau pori hanesyddol i ddefaid. Yn y DU mae lleoliad tri chwarter o rostiroedd grug y byd. Ynghyd â'r rhostiroedd glaswelltog, mae'r rhain yn ffurfio'r ardal fwyaf o gynefinoedd bywyd gwyllt sydd heb eu datblygu yng Nghymru.
Nid oes unrhyw syndod felly fod y rhostiroedd grug yn gysylltiedig â nifer o anifeiliaid a phlanhigion, gan gynnwys y rugiar ddu, boda tinwyn a rhywogaethau eraill o adar yr ucheldiroedd. Yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf fe hanerwyd ardaloedd y rhostiroedd grug ac mae rhan sylweddol o'r ardal sy'n parhau mewn cyflwr gwael.
Er inni dybio fod y rhostiroedd grug yn gynefin gwyllt heb ei ddatblygu, fe'i ffurfiwyd drwy i bobl ei reoli'n barhaol dros y canrifoedd. I oroesi, rhaid iddo ddibynnu ar gynnal a chadw'r dull rheoli draddodiadol, heb hynny fe'i collir. Un o amcanion allweddol Project y Grug a'r Caerau yw gwella ansawdd y rhostiroedd grug drwy reolaeth a dealltwriaeth well. Yn gyfunol, mae nodweddion hanesyddol a naturiol arbennig Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio - ardal Project y Grug a'r Caerau - yn Ardal eithriadol o ran ei gwerth treftadaeth ddiwylliannol.
Crëwyd Project y Grug a'r Caerau i gysylltu cadwraeth ac adfer treftadaeth naturiol a hanesyddol Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio gyda hyrwyddo gwell mwynhad o a gwybodaeth am yr ucheldiroedd hyn ymhlith trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Canolbwyntir y gwaith o dan bedair thema sef:
Treftadaeth ein Bryngaerau
Treftadaeth ein Rhostiroedd
Deall ein Hucheldiroedd
Gwella Mynediad
Ceir manylion pellach ynglŷn â Chynllun Partneriaeth Tirlun y Grug a'r Caerau yn y dogfennau canlynol, yn y ffurf y cyflwynwyd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn ystod cyfnod cynllunio y prosiect.
Landscape Study
Landscape Strategy
Training Plan
Business Plan
Partnership- Countryside Exchange (darllenwch mwy am y cynllun cyfnewid cefn gwlad yma)
Access & Audience Review
|