| Cyfnewid Cefn Gwlad 2004 |
|
|
|
Dewiswyd y Prosiect Grug a Chaerau yn un o ddim ond 3 Ymweliad Cyfnewid Cefn Gwlad yn y DU yn 2005. Gweithiodd wyth arbenigwr o Ogledd America a'r DU yn yr Ardal Prosiect Grug a Chaerau am wythnos ym mis Hydref, gyda'r amcan o ganfod atebion ymarferol i'r problemau a geir yno ar hyn o bryd. Rhoddodd y Rhaglen Cyfnewid Cefn Gwlad gyfle unigryw i rannu profiadau ac arbenigedd ac i weithio ar broblemau cyffredin gydag unigolion o ddwy ochr i'r Iwerydd. Rheolwyd Rhaglen Cyfnewid y DU 2005 gan CEI Associates. Fel rhan o'u hymweliad astudio, gofynnwyd i'r arbenigwyr gyflwyno eu hargymhellion, syniadau newydd ac atebion ynghylch sut y gallai'r Prosiect Grug a Chaerau gyfrannu tuag at:
Yn ystod eu harhosiad, cyfarfu'r Tîm Cyfnewid Cefn Gwlad gyda ffermwyr, pobl yn gweithio yn yr ardal ac aelodau o'r gymuned a busnesau lleol er mwyn cynnal eu hymchwil. Ystyriwyd argymhellion y Cyfnewid Cefn Gwlad gan Fwrdd Partneriaeth Grug a Chaerau ac fe'i defnyddiwyd i fwydo gwybodaeth a datblygu darpar raglenni a phrosiectau. |



Y Grug a'r Caerau 






