Deall ein Hucheldiroedd Argraffu Ebost

Bob blwyddyn, bydd dros hanner miliwn o bobl yn ymweld ag Ardal
Project y Grug a'r Caerau.

 

Mae nifer o'r rhain yn hollol anymwybodol o arwyddocâd treftadol naturiol a hanesyddol eu hymweliad.
Moel FamauAdeiladwyd aneddiadau'r bryngaerau ar ben y bryniau er mwyn gallu manteisio ar safleoedd oedd yn hawdd eu hamddiffyn, golyga hyn y bydd y safleoedd yn anhygyrch i rai pobl.

 

Un o amcanion y Project hwn yw dod a'r profiad o'r ucheldiroedd at gynulleidfa ehangach drwy ddehongliadau dealladwy a gwneud treftadaeth arbennig yr ardal ar gael i'r rhai a fyddai fel arall yn analluog i fwynhau'r safleoedd hyn. Byddai cynyddu cyfranogaeth y cyhoedd o reolaeth yr ucheldiroedd yn creu gwell dealltwriaeth o werth yr ardaloedd arbennig hyn.

 

Datblygir wyth o brojectau allweddol o dan y thema Deall ein Hucheldiroedd:

 

Trywydd Treftadaeth Rhyngweithiol

Amcan y project yw cynyddu ymwybyddiaeth a deallusrwydd pobl o'r dirwedd gan ddarparu trywydd treftadaeth rhyngweithiol ar hanes a threftadaeth ardal y Project y gellir mynd ato drwy ffonau symudol a mathau eraill o gyfarpar awdio/weledol.

  

Cronfa Oes yr Haearn a Chist Drysor y Rhostiroedd

Darparu defnyddiau o ran adnoddau cefnogi addysgol ar gyfer athrawon mewn fformat hawdd ei ddefnyddio er mwyn hyrwyddo a hwyluso'r dysgu am dreftadaeth naturiol a hanesyddol ein hucheldiroedd.

 

Dehongliad Dealladwy

Darparu gwefan gyflawn er mwyn i bobl allu derbyn gwybodaeth am y Cynllun Partneriaeth y Grug a'r Caerau.

 

Dehongliad ar y Safle

Datblygu cyfres o fyrddau dehongli a leolwyd ar fynedfeydd meysydd parcio strategol i'r safleoedd bryngaerau a'r mynydd grug.

 

Diwrnodiau Gwirfoddolwyr Ifanc

Sefydlu diwrnodiau penodol i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn rheoli eu treftadaeth leol.

   

Rhannu Ymarfer Gorau

Rhannu'r profiad a'r gwersi a ddysgwyd drwy ddatblygu a gweithredu Project y Grug a'r Caerau.

   

Arddangosfa y Grug a'r Caerau

Datblygu arddangosfa ryngweithiol a fydd yn teithio i leoedd fel sioeau a digwyddiadau, neuaddau cymuned a llyfrgelloedd sydd y tu mewn a'r tu allan i Ardal y Project.

  

Cyhoeddiadau y Grug a'r Caerau

Codi proffil yr ardal drwy ddatblygu cyfres o gyhoeddiadau mewn nifer o fformatau gwahanol er mwyn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o dreftadaeth Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio.

 

 

Treftadaeth ein Bryngaerau

Treftadaeth ein Rhostiroedd

Gwella Mynediad