Ffermio Argraffu Ebost

Ffermwyr oedd pobl yr Oes Haearn, nid pobl oedd wrthi'n ymryson yn erbyn eu cymdogion. Byddent wedi ffermio anifeiliaid a chnydau yn union fel ni heddiw er mwyn cynhyrchu bwyd a dillad, a'r pethau oedd eu hangen i fyw.

Da byw

Tybir bod y bobl yn symud eu hanifeiliaid bob blwyddyn o'r hendref yn y dyffryn - lle roeddynt yn treulio'r gaeaf - i'r hafod ar y mynydd i dreulio'r haf. Y gair am yr arferiad hwn yw ‘trawstrefa', sy'n digwydd hyd heddiw. Efallai y defnyddiwyd y bryngeyrydd  i gadw anifeiliaid yn yr haf pan roeddynt ar dir uchel yr hafod. Roedd defaid a gwartheg yn bwysig dros ben a byddai rhaid eu hamddiffyn rhag ysglyfaethwyr fel eirth, baeddod a bleiddiaid oedd yn berygl i'r anifeiliaid gwerthfawr. Byddai rhagfuriau a phalisâd y fryngaer yn cadw'r anifeiliaid yn ddiogel y tu mewn. Efallai byddai'r catel roeddynt yn eu cadw yn debyg i frid y Dexter heddiw o ran eu golwg a'u maint. Byddai defaid a'r geifr yn fwy cyffredin, a'r defaid yn rhai bach a gwydn fel defaid Soay heddiw.

Nid ar gyfer cig yn unig  roeddynt yn cadw anifeiliaid. Mae'n debyg mai ychydig o gig oedd yn cael ei fwyta, a'r anifeiliaid yn cael eu lladd ar achlysuron arbennig yn unig. Mae'n fwy tebyg mai hela anifeiliaid gwyllt byddent yn ei wneud. Byddai'r gwartheg yn tynnu'r troliau a'r erydr, a chroen y gwartheg a gwlân defaid a blew geifr yn cael eu defnyddio i wneud dillad. Defnyddid y cyrn a'r esgyrn i wneud llestri, nodwyddau a choesau padelli, y perfeddion i wneud cortyn a'r bledren i ddal dwr.

Tyfu Cnydau

Roeddynt yn tyfu nifer o fathau o wenith; cnwd emer, gwenith yr Almaen a gwenith bara yn ogystal a Haidd. Hefyd, byddent yn tyfu pys a ffacbys. Mae'n anodd darganfod ble roeddent yn tyfu cnydau, y lleoedd gorau i dyfu byddai lle rydym yn tyfu heddiw, felly mae'r olion wedi diflannu. Hwn fyddai'r prif fwyd, gan ychwanegu wyau, llefith a chaws yn brif brotein. Byddent yn malu'r grawn yn flawd i wneud bara. Breuan (melin law ) oedd yn malu'r grawn ac roedd dau fath: breuan gyfrwy, lle'r oedd y garreg uchaf yn cael ei thynnu a'i gwthio yn erbyn y garreg isaf, a breuan droi, oedd ar siâp torth gron neu siâp cwch gwenyn; roedd modd troi'r freuan hon â choes bren. Efallai bod y grawn yn cael ei fragu i wneud cwrw, am nad oedd y dŵr yn iach i'w yfed.

Mae tystiolaeth yn dangos eu bod yn tyfu'r cnydau'n llwyddiannus iawn gan gadw'r grawn oedd yn weddill mewn storfa. Darganfuwyd storfeydd grawn, o bosib, ar Foel y Gaer, Rhosesmor ar ffurf adeilad ar bedwar postyn lle gallai'r grawn gael ei gadw o afael llygod ac anifeiliaid eraill. Mae tystiolaeth o byllau i gadw'r grawn, hefyd. Mae'n ymddangos yn rhyfedd i gadw grawn mewn pyllau llaith o dan y ddaear, ond mewn arbrofion a wnaed yn fferm hynafol Butser, roedd yn ddull effeithiol iawn. Os oedd caead i gadw aer allan ar ben y pwll, yna byddai'r grawn oedd yn cyffwrdd â'r waliau llaith yn egino gan ddefnyddio'r ocsigen a gollwng deuocsid carbon sy'n  cadw gweddill y grawn rhag egino. Mae'r grawn yn gallu cadw am fisoedd wedyn , tan gaiff y caead ei agor.

Mathau eraill o fwyd

Byddai pobl Oes yr Haearn yn casglu planhigion fel perlysiau i roi blas ac amrywiaeth i'w bwyd. Byddai ffrwythau gwyllt a mêl yn amheuthun ac yn fodd i gael siwgr. Efallai bod halen, a wnaed ar lan y môr drwy anweddu'r heli, yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Ac, wrth gwrs, byddent yn casglu bwyd fel cnau, aeron a phlanhigion eraill.

Coetiroedd

Roedd pren yn hanfodol yn ystod Oes yr Haearn. Roedd ei angen i godi tai, i wneud tân er mwyn cadw'n gynnes a gwneud bwyd, i godi ffiniau amddiffynnol a gatiau, ac i wneud llestri pren. Felly, rhaid trin y coedwigoedd oedd o'u cwmpas er mwyn cael cyflenwad o goed. Y ffordd i orau i wneud hyn oedd trwy docio a bôn-docio er mwyn cynhyrchu polion syth ar gyfer creu ‘bangorwaith' (ffens o goed wedi'i blethu), tanwydd ac i wehyddu.