| Arwyddion o Statws a Mannau cyfarfod |
|
|
|
Mae’r bryngeyrydd yn rhyfeddol o weladwy ar y dirwedd, hyd yn oed ar ôl miloedd o flynyddoedd o erydu. Arwyddion o Statws O gwmpas llawer o fryngeyrydd ceir milltiroedd o ragfuriau, ac mae’n debyg byddai angen llawer o bobl i gloddio’r ffosydd, codi’r cloddiau ac adeiladu palisâd (ffens bren uchel). Byddai angen arweinydd i gydlynu’r holl waith hwn. Mae’r bryngeyrydd hwythau yn amrywio o ran eu maint, o tua 2 hectar i dros 20 hectar (ychydig yn llai na chae pêl droed yw hectar). Mae gan rai o’r ceyrydd fynedfeydd cymhleth a nifer o ragfuriau. Awgrymwyd mai arwydd yw hyn o’r arweinyddion yn ceisio rhagori ar ei gilydd. Mannau Cyfarfod Efallai buasent wedi dathlu dyddiadau pwysig y calendr yma hefyd fel heuldro’r haf a heuldro’r gaeaf a chyhydnos y gwanwyn a’r hydref. Efallai y defnyddid y bryngeyrydd i gynnal marchnadoedd le gallai pobl yr ardal werthu pethau fel y bwyd oedd ganddyn nhw dros ben. Efallai byddai hyn yn bwysig iddyn nhw am fod y gallu i wario ar wrthrychau yn fodd iddynt symud i fyny’r ysgol yn gymdeithasol. |



Y Grug a'r Caerau 






