| Bryngaer Caer Drewyn |
|
|
Yn uchel uwchben tref Corwen ac yn edrych dros Ddyffryn Edeyrnion gwelir un o Fryngeyrydd gorau Cymru o ran cyflwr ei chadw.
Adeiladwyd Caer Drewyn tua 2500 o flynyddoedd yn ôl. Yn annhebyg i fryngeyrydd eraill, nid oes gan Gaer Drewyn gloddiau na ffosydd (sef rhagfuriau) ond yn hytrach mae yma waliau cerrig y gellir gweld eu holion hyd heddiw. Mae'n debyg mai tai crynion o gerrig a choed oedd y tu mewn i'r fryngaer, yn cysgodi ac yn diogelu'r trigolion. Defnyddid Caer Drewyn ymhell ar ôl Oes yr Haearn. Yn ôl y chwedl, defnyddiodd Owain Gwynedd, a gyhoeddodd ei hunan yn Frenin Cymru, y gaer yn wersyll pan roedd Harri'r Ail yn gwersylla ar fynyddoedd y Berwyn. Credir hefyd mai dyma lle casglodd Owain Glyndŵr ei filwyr ynghyd ar ôl cyhoeddi ei hunan yn Dywysog Cymru yn 1400.
Cyrraedd:Mae'r parcio agosaf wrth y pwll nofio lleol sydd ar y B5437 gyferbyn â phen y bont dros afon Dyfrdwy, ar y ffordd o Gorwen (A5). Gellir cyrraedd y safle ar hyd llwybr cyhoeddus sydd ag arwyddbost ato o ochr ogleddol y B5437, ychydig i'r dwyrain o'r pwll nofio. Mae hwn yn llwybr da sy'n troelli islaw ochr orllewinol y fryngaer, ac yna'n troi'n sydyn i'r dde, i fyny i'r ochr orllewinol, ar hyd ochr allanol y gwrthglawdd deheuol ac at y porth gogledd-ddwyreiniol. (Diolch i YACP) Map OS: Explorer 256 neu 255 Cyfeiriad grid OS: SJ087444
Cliciwch ar y linciau am: Taith Traftadaeth Sain Caer Drewyn Tair Taith Gerdded Gylchol Corwen Cerdded yng Ngefn Gwlad Sir Ddinbych- Teithiau Corwen. Tudalen 1 & Tudalen 2
|



Y Grug a'r Caerau 







