| Caer Drewyn- Cloddiwch yn ddyfnach! |
|
|
|
Saif Caer Drewyn (SJ088444) ar esgair orllewinol y gefnen sy'n rhedeg rhwng Llangollen a Chorwen. Nid yw ar fan uchaf y gefnen, ond ar lethr sy'n edrych ar draws y tir sydd o gwmpas cymer yr afon Ddyfrdwy a'r Alwen. Yn ôl tystiolaeth, ymddengys mai darn bach o dir amgaeedig o gwmpas y darren naturiol oedd y gaer gyntaf. Rhan yn unig o'r tir amgaeedig cynnar hwn sy'n dal yn weladwy ac yn ymdebygu i ochr bryn glaswelltog. Mae'r gaer ddiweddarach yn amlwg i'w gweld oherwydd ei rhagfuriau cerrig, sy'n annhebyg i ragfuriau pridd y pum bryngaer arall sydd yn ardal y project.
Mae'r rhagfuriau yn amgáu tri hectar o dir. Mae yma ddwy fynedfa fewndro; un ohonynt ar fan uchaf y safle yn y gornel ogledd ddwyreiniol, ac ymddengys fel petai ganddi siambr gwarchod. I'r gorllewin, mae gan y llall sylfeini adeilad hirsgwar.
Mae yma loc allanol neu ychwanegiad sydd â sylfeini cerrig llwyfan cytiau efallai.
Edward Lhwyd oedd y cyntaf i sôn am Gaer Drewyn[i]. Ysgrifennodd ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg. Mae'n dweud am Gaer Drewyn -‘a place where they kept their cattle in war time' . Disgrifiodd Thomas Pennant[ii] y gaer hefyd ar ei daith drwy Gymru.
Y Parchedig Hugh Pritchard wnaeth yr ymchwil drylwyr o'r safle, yn 1887[iii] Cliriodd y wal gerrig o flaen llaw gan ddatgelu mur a adeiladwyd yn dda ac a oedd rhwng 5 a 7 metr o drwch. Sylwodd bod yr wynebau ar y naill ochr a'r llall wedi'u hadeiladu'n dda ac ar ffurf grisiau o ran yr adeiladwaith.
Gwnaeth Willoughby Gardner yntau ymchwiliadau i'r wal gerrig yn y 1920s[iv] gan gyhoeddi rhannau a ffotograffau o'r wal, ond ni chloddiodd yno. Yn debyg i Bennant, soniodd am y pantiau cylchog o fewn y wal gerrig gan awgrymu mai cysgodfa hela grugieir oeddynt.
Yn 'the History of Merionethshire', gan Bowen & Gresham yn 1967, ceir awgrymiadau bod pedwar cyfnod o ddatblygiad ar y safle. [v]
Cyn belled ag y gwyddys, ni fu unrhyw gloddio archeolegol ar Gaer Drewyn yn y gorffennol.
Yn 1993 a 1994 bu astudiaeth o'r cen sy'n tyfu ar furiau'r gaer gan enwi 60 o rywogaethau gwahanol o gen, rhai ohonynt yn rai prin yn lleol.
Yn 2006, gwnaeth EAS (Engineering Archaeological Services) arolwg topograffigol o Gaer Drewyn a nodi bod 8 llwyfan cwt, o bosib, o fewn y brif gaer, hefyd, gyfnodau posib adeiladu rhannau gwahanol y safle. Cliciwch yma i lwytho i lawr yr adroddiad ar Gaer Drewyn.
[i] Edward Lhwyd Parochialia [ii] T.Pennant Tours in Wales [iii] Rev. Pritchard 1887 Archaeologica Cambrensis [iv] W Gardner 1922 Archaeologica Cambrensis 108-125 [v] Bowen and Gresham 1967 History of Merioneth
|



Y Grug a'r Caerau 







