Bryngaer Moel Arthur Argraffu Ebost

Ar fryn amlwg yn edrych dros Ddyffryn Clwyd mae’r gaer hon.

 Moel Arthur

Adeiladwyd Moel Arthur tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’n swatio rhwng bryngaer Penycloddiau a Moel Llys y Coed.

Er ei bod yn gaer fechan, ganddi hi mae rhai o’r cloddiau a ffosydd (rhagfuriau) mwyaf holl fryngeyrydd yr ardal.

Nid pobl Oes yr Haearn yn unig oedd yn defnyddio Moel Arthur.

Mae’n bosib bod tomen gladdu Oes yr Efydd yng nghanol y fryngaer, ac mae tystiolaeth o chwarela ar ochr ddeheuol y bryn.

Yn ôl yr hanes, bu rhai gor-optimistaidd yn ceisio cloddio am aur yma yn ystod Rhuthr am Aur Cilcain.

Link i taflen

Cyrraedd:

Gallwch gyrraedd Moel Arthur drwy gymryd y ffordd o'r Wyddgrug i Ddinbych (A541) a throi i'r ffordd gyntaf ar y chwith ar ôl y drofa i Gilcain.Mae'r fryngaer ddwy filltir i lawr y ffordd hon, ac mae maes parcio bychan yn ymyl y safle.


Map OS: Explorer 265
Cyfeiriad grid OS: SJ145660

Cerdded yng Ngefn Gwlad Sir Ddinbych- Penycloddiau/Moel Arthur.  Tudalen 1  &  Tudalen 2

Os hoffech ddysgu mwy am Foel Arthur, ewch i dudalen Moel Arthur – cloddiwch yn ddyfnach.