| Moel Arthur – Cloddiwch yn Ddyfnach! |
|
|
|
Saif Moel Arthur (SJ145660) ar ochr ddeheuol Penycloddiau. Mae'n fryngaer fach gylchog ar gopa bryn amlwg iawn ym Mryniau Clwyd. Mae'r rhagfuriau i'r gorllewin yn fain ac yn ffurfio'r ffin rhwng Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Ond i'r gogledd maent yn fwy o lawer. Maint y fryngaer yw 2 hectar. Mae iddi un fynedfa fewndro yn y gogledd ddwyrain.
Bu Wynne Ffoulkes yn cloddio'n archeolegol yn 1849, ond nid yw'r union le a rhifau'r ffosydd yn amlwg. Daeth o hyd i olion waliau cerrig a adeiladwyd yn rheolaidd a hefyd ‘coarse red Roman pottery, and flint arrowheads and corroded iron[i]
Yn y flwyddyn 1962, yn dilyn storm arw, darganfuwyd cronfa o dair bwyell wastad o'r Oes Efydd o fewn amddiffynfeydd y safle.[ii].
Forde Johnston oedd y cyntaf i nodi bodolaeth y siamberi gwarchod wrth y fynedfa, y fynedfa gul a llethr amlwg y rhagfuriau wrth y fynedfa. Awgryma mai'r clawdd mewnol ar yr ochr ogleddol oedd y rhan gyntaf i'w hadeiladu a bod y clawdd allanol wedi'i godi wedyn.
Gwnaed Arolwg topograffegol gan EAS yn 2006. Maent yn awgrymu bod y camau adeiladu i'r gwrthwyneb i ddamcaniaeth Forde Johnston. I gael gwybod mwy dilynwch y ddolen i'r adroddiad.
[i] Wynne Ffoulkes 1850 Archaeologia Cambrensis [ii] Forde Johnston 1965 Archaeologica Cambrensis
|



Y Grug a'r Caerau 







