| Bryngaer Moel Fenlli |
|
|
Yn edrych allan dros Fwlch Pen Barras mae bryngaer hanesyddol Moel Fenlli.![]() Adeiladwyd Moel Fenlli yn ystod oes yr Haearn, tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae tystiolaeth y byddai pobl wedi byw tu mewn i'r fryngaer a chasglu dŵr o ffynnon sydd yng nghanol y gaer. Gwnaed ymchwiliad bychan yma gan Wynne Ffoulkes yn 1849. Mae pobl wedi bod yn defnyddio'r fryngaer cyn ac wedi oes yr Haearn. Mae, o bosibl, gloddfa gladdu o oes yr Efydd tu mewn i'r gaer. Ac yn 1816 canfuwyd pentwr o 1,500 o geiniogau Rhufeinig yma.
Cyrraedd:Mae modd cyrraedd Moel Fenlli drwy gymryd y ffordd o Ruthun i'r Wyddgrug (A494) a dilyn yr arwyddion brown ag arnynt y geiriau Parc Gwledig Moel Famau. Mae maes parcio Moel Fenlli yn union gyferbyn â maes parcio Moel Famau. Mae modd dod o hyd i Lwybr Clawdd Offa wrth droed Moel Fenlli ac yna mae llwybr yn union i fyny i'r Gaer o'r maes parcio sydd oddi tanodd.
Map Moel Fenlli Cerdded yng Ngefn Gwladd Sir Ddinbych- Moel Famau, De'r Twr. Tudalen 1 & Tudalen 2
Os hoffech gael mwy am Foel Fenlli, ewch i’r dudalen Moel Fenlli – Cloddiwch yn Ddyfnach! |



Y Grug a'r Caerau 







