Moel y Gaer Llanbedr - Cloddiwch yn Ddyfnach! Argraffu Ebost

Moel y Gaer a Moel Fenlli

 

Yn annhebyg i'r bryngeyrydd lleol eraill, nid yw Moel y Gaer Llanbedr (SJ149617) ar gefnen ganolog Bryniau Clwyd, ond ar esgair orllewinol sy'n edrych dros Ddyffryn Clwyd.

 

Mae'r rhagfuriau'n amgáu darn o dir sy'n debyg o ran ei faint i Foel Arthur, sef 3 hectar. Mae'n cynnwys y prif loc ac ychwanegiad sydd ynghlwm wrtho.

 

I'r de, mae'r rhagfuriau'n denau, ond i'r gogledd a'r gogledd ddwyrain lle mae'r bwlch isel o dir yn cysylltu'r esgair â phrif gefnen Bryniau Clwyd maent yn fwy ac yn cynnwys mynedfa gymhleth.

 

Mae mynedfa arall yn torri drwy'r rhagfuriau ar yr ochr orllewinol. Anodd credu bod y fynedfa'n cael ei defnyddio, am fod y llethr mor serth yma.

 

Yn debyg i Foel Arthur, mae Moel y Gaer Llanbedr wedi'i chloddio'n archeolegol yn ystod 1849 gan W Wynne Ffoulkes. Yn ôl y cynlluniau a gyhoeddwyd fe gloddiwyd dwy ffos yn union y tu mewn ac ar ochr dde'r brif fynedfa. Mae'n anodd dehongli beth a ddarganfuwyd er bod rhyw gyfeiriad at ffordd bafin i mewn i'r gaer. Ymddengys mai'r unig arteffact a gafwyd oedd darn o grochenwaith a ddisgrifir yn ‘Roman pottery, well fabricated and of deep red colour'. Mae Wynne Ffoulkes yn cyfeirio at ddarganfod llosgiadau eang yn y rhagfur mewnol yn ymyl y giat.

 

Yn yr 1920au mae Ellis Davies yn crynhoi'r disgrifiad o'r safle ac yn nodi nad oedd unrhyw arwyddion o anheddau o unrhyw fath, er bod Forde Johnston yn awgrymu yn ei ddisgrifiad ar ganol yr 1960au bod un llwyfan cwt posib yn weladwy. Awgryma bod dau gyfnod o adeiladu'n bosib. Yn u cyfnod cyntaf, adeiladwyd y clawdd mewnol, y ffos a'r isglawdd sgarp, ac yn yr ail gyfnod adeiladwyd y ffos allanol a'r isglawdd sgarp ar yr ochr ogleddol.

 

Awgrymodd Willoughby Gardner hefyd y gallai fod chevaux de frise o fewn yr ail ffos, ond nis edrychid arno.

Cynhaliwyd arolwg  topograffigol  yn 2007 gan EAS. Wrth gynnal yr arolwg nodwyd bod y ffosydd sy'n darparu'r deunyddiau ar gyfer y rhagfuriau wedi'u lleoli o fewn yr wynebau mewnol ac nid yr wynebau allanol sy'n fwy amddiffynnol. Nodasant hefyd bod 15 o lwyfannau cwt posib oddi mewn. Nodwyd darn lle bu llosgiadau tanbaid ar grafiad defaid yn ymyl y fynedfa, a daethpwyd o hyd i ddeunydd llosgedig a all fod yn dystiolaeth o wydriad. Gwnaed damcaniaeth o gyfnodau adeiladu'r gaer. I gael gwybod mwy, dilynwch y ddolen i'r adroddiad.

 

Yn 2008 bu EAS a gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith arolwg. Awgryma'r canlyniadau bod mynediad gynharach, symlach i'r gaer, a losgwyd ar un adeg.

[i]Wynne Ffoulkes ibid

[ii]Canon Ellis Davies 1929 Prehistoric and Roman Remains of Denbighshire

[iii]Forde Johnston ibid