| Penycloddiau – Cloddiwch yn Ddyfnach! |
|
|
|
Saif Penycloddiau (SJ128676) ar draws cefnen ganolog Bryniau Clwyd. Mae'r rhagfuriau'n amgáu ardal sy'n 21 hectar. Mae'r gaer ymhlith bryngeyrydd mwyaf Cymru. Mae'n gaer amlglawdd gyda rhagfuriau eang i'r gogledd ac i'r gogledd orllewin.
Mae dwy fynedfa mewndro wreiddiol, un i'r de a'r llall hanner y ffordd ar hyd y rhagfur dwyreiniol.
Fel y nododd Forde Johnston, [i] nid yw'n fryngaer gyfuchlin am ei bod yn gogwyddo o'r man uchaf i'r fynedfa yn y de.
Mae'r ffin hanesyddol rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn defnyddio rhan fawr o ragfur y gorllewin.
Daw'r cyfeiriad cyntaf at y safle yn Parochialia, Edward Lhwyd ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg wrth iddo ddisgrifio 'on top of Moel Ysweiliog is an old camp close on a mile in circumference'. [ii]
Sonai Lewis' Topographical Dictionary yn y ddeunawfed ganrif amdani 'principal and most extensive of (Clwydian Range military posts) occupies the summit from which it's strong foundations were called Bryn y Cloddiau or "the hill of the ditches"... and defended according to the facility or difficulty of access by single, double or triple and quadruple entrenchments....'[iii].
Fodd bynnag Canon Ellis Davies sy'n rhoi'r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf o'r safle yn y llyfr Prehistoric and Roman Remains of Flintshire[iv].
Yn ystod yr 1960au mae Frode Johnston yn ehangu ar y gwaith a wnaeth Ellis Davies ac yn awgrymu bod tri chyfnod posib o adeiladu'r gaer. Yn y cyfnod cyntaf, daeth adeiladu'r clawdd mewnol a'r ffos chwarel fewnol, yna efallai daeth yr ail gyfnod pan adeiladwyd y ffos fewnol a'r isglawdd sgarp, y trydydd cyfnod oedd adeiladu'r clawdd a'r ffos fewnol. Awgryma Forde Johnston y gallai cyfnod adeiladu un a dau fod yn un ysbaid o adeiladu.
Cyn belled ag y gellir sefydlu, ni fu unrhyw gloddio archeolegol ar Benycloddiau yn y gorffennol.
Yn 2004 gwnaeth CPAT arolwg topograffigol o'r safle sy'n enwi 43 o leoliadau posib llwyfannau cytiau. Dilynwch y ddolen i gael copi o'u hadroddiad a dysgu mwy.
Yn 2008 gwnaeth CPAT ffos werthuso ar y domen sydd y tu mewn i'r fryngaer i ddarganfod a yw'n domen naturiol neu'n nodwedd sydd o waith pobl, o'r Oes Efydd o bosib.
Hefyd, yn 2008, bu EAS a'r gwirfoddolwyr yn gwneud arolwg geoffisegol oddi mewn i ran o'r fryngaer. Ymhlith eu canlyniadau mae tai crynion newydd ac efallai lloc. [i]Hillforts of the Clwydian Range Flintshire Historical Society Transactions [ii]Parochialia Edward Lhwyd 16xx [iii] Topographical Dictionary Lewis [iv]Canon Ellis Davies 1949 Prehistoric and Roman Remains of Flintshire |



Y Grug a'r Caerau 







