Rhun Jones, Uwch Warden Cefn Gwlad - De Sir Ddinbych
Rhostiroedd sych yn bennaf yw mynydd-diroedd Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio. Mae'r haenau tenau o bridd mawnog yn wych ar gyfer y grug, y llus, yr eithin, a nifer o fathau o laswellt mynydd. Ceir yma Clychau'r Grug a Grug Deilgroes hefyd. Mae Rhedyn ac Eithin yn tyfu yn y cynefin ac yn dod yn fwy cyffredin gan achosi problemau rheoli ac amaethu. Gwelir y Fedwen Arian a choed Criafol yn frith ar y mynydd. Byddant yn lledaenu'n araf gan droi'r rhostiroedd gwerthfawr yn goedwig oni chedwir hwy o dan reolaeth. Nid ydynt yn frodorol i'r cynefin hwn ond mae yma goed pîn hefyd yn arbennig yn agos at y planhigfeydd conifferau fel ar Foel Famau.
Mae'r cynefin yn denu nifer o fathau gwahanol o fywyd gwyllt, ac mae pob un yn manteisio o'r dull rheoli traddodiadol sy'n dal i ddigwydd yma heddiw. Dyma'r rhywogaethau allweddol: y Rugiar Ddu, y Rugiar Goch, adar ysglyfaethus fel Cudyll Bach, Cudyll Coch a Boda Tinwyn, adar mân fel Ehedydd, Gylfinir a Bras Melyn. Gwelir gwenyn y llus o dro i dro, yn enwedig ar flodau'r grug. Mae'r gwyfynod y chwilod a phryfed mân eraill hwythau'n angenrheidiol i lwyddiant cymuned y rhostir.
Mae ein rhostiroedd grug yn gynefinoedd pwysig. Gwarchodir nifer ohonynt rhag datblygiad a niwed gan y ddeddf. Dynodwyd llawer yn Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig y DU (SSSI), a hefyd dynodiad pwysig Ewrop a elwir yn Ardal o Gadwraeth Arbennig (SAC). Mae'r dynodiadau hyn yn gymorth i warchod ein Rhostiroedd Grug ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
Mae ein mynydd-diroedd yn adnodd pwysig i amaethyddiaeth. Tir Comin yw llawer o'r rhostir sydd o fewn ardal y project Y Grug a'r Caerau, a caiff nifer o ffermydd yr hawl i bori defaid yma. Heb ei reoli'n amaethyddol, byddai ffurf y rhostiroedd grug yn newid yn sylweddol a llawer o'r cynefin a nifer o'r rhywogaethau mewn perygl o ddiflannu.
Cliciwch y dolenni hyn i gael gwybod mwy am sut a pham rydym yn rheoli'r Rhostiroedd Mynydd