Tir Comin Argraffu Ebost

Mae tiroedd comin yn mynd yn ôl ganrifoedd lawer. Tir yw hwn sydd yn eiddo i unigolyn ond bod gan lawer o bobl yr hawl i wneud rhai pethau penodol arno fel casglu coed tân, neu roi defaid arno i bori. Nid yw Tir Comin yn golygu bod gan y cyhoedd yn gyffredinol yr hawl i'w ddefnyddio i wneud unrhyw beth yr hoffent ei wneud arno. Cafodd yr holl Dir Comin ei fapio'n Dir Mynediad yn dilyn y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawl Tramwyo (2000). Mae hyn yn golygu bod hawl gan y cyhoedd i gerdded arno dim ond iddynt beidio â dringo ffiniau fel ffensys neu waliau a'u bod yn defnyddio camfeydd neu giatiau nad ydynt ynghlo.

 

O fewn ardal Project y Grug a'r Ceyrydd, mae nifer o diroedd comin y gall pobl bori defaid arnynt. Er mwyn i'r mynydd ddal i lwyddo, mae'n angenrheidiol i'r arfer barhau. Heb i'r defaid bori a'r rheoli sy'n dod gyda hyn, byddai'r grug heb ei reoli a byddai'r mynydd yn troi'n ôl yn goedlannau.

 

Dynodir Moel y Parc, Moel Famau, Moel Fenlli a Mynyddoedd Llantysilio i gyd yn Dir Comin. Mae'r holl ddefaid sy'n pori yma wedi'u rhoi yma gan ffermwr (porwr). Bydd pob un o ddefaid y porwr yn aros ar yr un rhan o'r mynydd, oni bai i rywbeth darfu arnynt. Yr enw ar yr ardal hon yw Cynefin. Rhoddir wyn newydd ar y mynydd gyda'r defaid a byddant yn derbyn y reddf ‘cynefin' a sicrhau bod defaid y porwr yn pori ar ddarn penodol o dir comin yn unig. Ers talwm, roedd mwy o fugeiliaid i reoli symudiadau'r defaid a gofalu nad oeddynt yn crwydro. Mae bugeilio'n llai cyffredin heddiw ond gan fod llai o bobl yn defnyddio'u hawliau i bori mae llai o ddefaid ar y mynydd hefyd.