|
Enw arall ar y grug cyffredin (Calluna Vulgaris) yw ling. Daw'r enw o'r Groeg a'r Lladin - mae 'Calluna' yn deillio o air Groegaidd sy'n golygu sgubo (defnyddiwyd y planhigyn i wneud brwshus). Daw'r gair 'Vulgaris' o'r Lladin sy'n golygu cyffredin.
Mae planhigion ifanc yn darddiad bwyd ardderchog i ddefaid a bywyd gwyllt, yn benodol grugieir. Wrth heneiddio mae ling yn dirywio ac yn anfwytadwy. Trwy dorri a llosgi'r grug, fel arfer bob rhyw 15 mlynedd, mae twf newydd yn cael ei gynhyrchu. Mae hyn yn caniatáu twf ffres parhaus i stoc a bywyd gwyllt.
Ar ddiwedd mis Gorffennaf trwodd i ddiwedd mis Awst mae'r blodau yn troi'r ffriddoedd yn dirwedd hardd a llawn o liwiau piws.
|