Eithin Ewropeaidd Argraffu Ebost

Eithin EwropeaiddMae Eithin Ewropeaidd (Ulex europaeus) yn gyffelyb i Eithin Gorllewinol ond ni ystyrir ei fod yn gydran o ffridd iach. Mae'n tyfu'n fwy na'r eithin gorllewinol a gall wneud ffermio'n fwy anodd gan fod defaid ac wyn yn mynd ar goll neu'n cuddio mewn Eithin Ewropeaidd. Unwaith eto bydd yn adweithio'n dda i losgi a bydd yn aml yn tyfu'n gryfach na grug. Ei dorri yw'r dull gorau o'i reoli.