|
Y Fedwen Arian (Betula pendula) - Hawdd adnabod y goeden hon oherwydd y rhisgl garw, ariannaidd. Y Fedwen Arian yw un o'r prennau cyntaf i adfywio'n naturiol ar rostiroedd na chawsant eu rheoli. Gellir gweld y fedwen arian yn frith ar lethrau isaf y mwyafrif o rosydd ym Mryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio, yn enwedig mewn grug trwchus ac eithin ble na all y defaid fynd i bori.
|