|
Collwyd rhannau helaeth o rostiroedd y DU i goedwigaeth. Ym Mryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio y blanhigfa fwyaf yw Coed Moel Famau. Mae'r planhigfeydd hyn yn gysgodfa wych i'r Rugiar Ddu.
Rheolir Coed Moel Famau mewn partneriaeth rhwng y Comisiwn Coedwigaeth a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych. Er mwyn creu ymyl naturiol a brith i'r goedwig fe dorrwyd nifer o goed a daeth rhostir naturiol yn eu lle. Dyma'r math o leoedd mae'r rugiar ddu'n ffynnu ynddynt.
Mae'r rhostir sydd o fewn ffiniau'r goedwig yn enghraifft wych o rostir sydd heb ei bori. Mae rheoli'r rhostir o fewn y goedwig yn gofyn am lawer iawn mwy o weithwyr.
|