Yr Ehedydd a Phibydd y Waun Argraffu Ebost

Y Phibydd y WaunMae'r Ehedydd (Alauda arvensis) a Phibydd y Waun (Anthus pratensis) yn ymwelwyr cyson â Bryniau Clwyd a mynyddoedd Llantysilio ac fe'u gwelir yn gyson yn arbennig ar ddiwrnodau cynnes yn y gwanwyn a'r Haf .


Mae'r Ehedydd yn nythu ar y llawr ac maent yn cerdded yn hytrach na hopian. Fe'u clywir yn amlach na'u gweld, ac mae ganddynt gân glir wrth hedfan. Yn aml maent yn hedfan yn rhy uchel i chi allu'u gweld. Gall eu cân bara hyd at 5 munud.


Mae Pibydd y Waun hefyd yn nythu ar y llawr. Mae ganddynt gân esgynnol hefo trill a genir wrth blymio ar ôl dringo i fyny o'r llawr.