Cacynen y Llus Argraffu Ebost

Cacynen y Llus (Bombus monticola) - Rhywogaeth o gacwn a welir yn bennaf ar ffriddoedd. Mae'n hawdd ei nabod oherwydd ei gynffon goch, a'i fol siâp calon a orchuddir hefo blew coch. Mae eu breninesau yn hoffi'r ffriddoedd a gellir eu gweld yn bwydo ar lus. Mae'r gweithwyr a'r gwrywon yn gyffelyb o ran lliw ond eu bod yn llai.

 

Gwelwyd Cacynen y Llus yn ddiweddar ar fynyddoedd Llantysilio ac ar Fryniau Clwyd.