Eithin Gorllewinol Argraffu Ebost

Mae'r Eithin Gorllewinol (Ulex Gallii) yn llwyn bytholwyrdd hefo blodau melyn a gynhyrchir yn bennaf ddiwedd yr haf ac yn yr hydref. Mae'r blodau yn arogleuo'n debyg i gneuen goconyt. Mae eithin yn ymateb yn dda i dân, ac yn tyfu nôl o'r gwraidd. Mae'n tyfu'n gynt na grug a gall dyfu'n gryfach nag o ar ôl ei losgi, gan olygu colli'r grug a'r borfa. Er y bydd defaid yn pori ar eithin newydd meddal ni fyddant yn ei fwyta unwaith bod y dail wedi mynd yn galed.