|
Mae Rhedyn (Pteridium) yn blanhigyn sy'n tyfu'n bennaf mewn coedlannau ond gellir ei weld ar ffriddoedd Bryniau Clwyd a Mynyddoedd Llantysilio, lle caiff ei ystyried yn rhywogaeth sy'n tagu. Mae rhedyn yn lledaenu tua 3% bob blwyddyn yn genedlaethol, yn aml gan effeithio ar amaethyddiaeth ac amcanion cadwraeth. Wrth i redyn dyfu ar y ffriddoedd, maent yn bygwth cymunedau pwysig y ffriddoedd. Mae rhedyn nid yn unig yn lleihau'r ardal bori, ond mae'n bygwth ardaloedd nythu pwysig. Mae rhedyn yn lle delfrydol i ddrogod fagu a gall y rhain drosglwyddo afiechyd Lyme a meningoecephalitis sy'n trosglwyddo i bobl o'r pryfed, a Louping Ill i ddefaid. Gallant hefyd drosglwyddo afiechyd i adar y ffriddoedd .
Credir bod rhedyn yn achosi cancr ac fe'i beiwyd am lefel gynyddol cancr y stumog yn Japan, lle mae rhannau o'r rhedyn yn cael eu bwyta fel llysiau.
Gellir gweld gwybodaeth am sut rydym yn ceisio rheoli lledaeniad rhedyn ac adfer ffriddoedd yn yr adran Rheolaeth Rhostir.
|