Cudyll Coch Argraffu Ebost

 

Cudyll Coch (Falco tinnunculus) - Dyma’r aderyn prae a welir amlaf ym Mhrydain, ac yn eang ar Fryniau Clwyd a mynyddoedd Llantysilio.

Mae pen y gwryw yn smotiog, oren, hefo plu brown, du a llwyd. Mae plu'r fenyw yn frown.

Mae aden y Cudyll yn mesur rhwng 65 a 80cm. Eu hoff fwyd yw mamaliaid bychain ond maent yn bwyta pryfed yn yr haf.

Fe’u gwelir yn aml yn hofran yn hela eu prae.