Melyn yr Eithin Argraffu Ebost

 Cliciwch yma 

Melyn yr Eithin (Emberiza citrinella). Fe’u gwelir mewn ardaloedd llawn tyfiant ar lethrau isaf y ffriddoedd yn arbennig ymhlith rhedyn, eithin a gwrychoedd. 

 

Mae’r gwryw yn aderyn lliwgar, hefo pen a rhannau isaf melyn llachar.

 

Mae cân y gwryw yn hawdd ei hadnabod a dywedir ei bod yn swnio’n debyg i’r geiriau Saesneg "a little bit of bread and no cheese".

 

Mae’n aderyn bach sy’n tyfu hyd at 17cm o hyd.