|

Uchder Moel Famau yw 554m (1818 tr.), y copa uchaf ar Fryniau Clwyd. Ar ben y foel saif Twr y Jiwbili, sy’n dirnod hawdd ei adnabod o bell ac agos. Mae Moel Famau a’r tir o’i chwmpas yn rhan o Barc Gwledig Moel Famau un o brif gyrchfannau i ymwelwyr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd (AHNE) (link to AONB website) ac sy’n denu tua 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Grug sy’n gorchuddio’r bryniau hyn ac maent yn gynefin sydd o bwyd yn fyd eang. Ond dim on darn bach sy’n weddill o’r mynydd grug oedd yn bodoli yma ganrif yn ol, collwyd tua tua 40% o’r rhostir grug ers yr ail Ryfel Byd, drwy goedwigaeth a a gwelliannau mewn amaethu.
Tir Comin yw llawer o’r Parc Gwledig, yn eiddo i Gyngor Sir Ddinbych ac mae gan nifer o ffermwyr yr hawl i osod defaid i bori yma. Yn hanesyddol, mae’r rhostiroedd grug yma yn bwysig ar gyfer pori, ond i wneud yn fawr ohono rhaid i’r grug gael ei reoli’n gyson.
Efallai eich bod yn ceisio dyfalu beth ydy’r siapau rhyfedd a dorrwyd yn y grug ar Foel Famau. Mae Moel Famau yn lleoliad pwysig i’r rugiar ddu brin, ond bach iawn ydy’r boblogaeth. Cyfrifwyd rhwng 10 a 15 o geiliogod y rugiar ddu yn ystod y blynyddoedd diweddar. Maen nhw’n hoff o’r gwrthgyferbyniad rhwng y grug ifanc, byr a’r hen dyfiant grug trwchus. Gwnaed y toriadau yn fach er mwyn rhoi llawer o ‘ymyl’ rhwng yr hen rug a’r grug ifanc. Mae’r tyfiant byr yn darparu pori gwerthfawr a lleoliad i arddangos eu hunain. Ar y llaw arall mae’r grug dwfn yn gysgod, yn lle i guddio rhag ysglyfaethwyr, ac yn lleoliad nythu.
Hoff leoliad y rugiar ddu ydy’r ymylon rhwng y goedwig a’r rhostir, felly maen nhw wrth eu bodd ar Foel Famau. Yma, gan gydweithio mewn partneriaeth a’r Comisiwn Coedwigaeth, fe gafodd ymyl y goedwig ei chlirio a’i theneuo er mwyn dileu ymyl syth y goedwig sy’n gysylltiedig a’r math o yma o blanhigfa goed. Mae’r ardal yma lle mae’r coed a’r grug yn tyfu yn lle gynefin gwych i’r rugiar ddu.
Nid yn unig bydd y toriadau yn y grug yn lles i’r rugiar ddu, ond i’r defaid hefyd ac yn gyffredinol i’r iechyd y mynydd grug. Bydd y defaid yn cael eu denu i bori ar y lleiniau sydd wedi’u torri a’u llosgi a lle mae’r llus ifanc a’r grug yn ffynnu. Wrth dorri a llosgi lleiniau o’r tir grug fe atelir y coed rhag lledu a’r tir yn troi’n dir prysgwydd unwaith eto.
|