| Projectau Bywyd Gwyllt |
|
|
|
Mae Project y Grug a'r Caerau yn cyfrannu tuag at nifer o brojectau sy'n gwella'r cynefinoedd ar gyfer rhai rhywogaethau penodol.
Cymdeithas yr RSPB oedd yn flaenllaw wrth arwain Project Adfer y Rugiar Ddu. Bu Moel Famau yn llwyddiant yn hanes y Rugiar Ddu, cododd y nifer yn gyson ers dechrau'r cofnodi. Cyfrifwyd 16 o geiliogod yng Ngwanwyn 2008, sy'n nifer rhyfeddol o gymharu ag un ceiliog yn unig yng nghanol y 1990au.
Bydd yr holl reoli rhostir a wneir yn fantais i'r Rugiar Ddu, sef aderyn sy'n hoff o rostiroedd grug sy'n amrywiol o ran oedran y planhigion ac sy'n agos at goed. Mae'r lleiniau cul o dir a dorrir ar y grug yn hybu tyfiant newydd i'r adar ei fwyta ac yn gadael tyfiant trwchus wrth law i'r adar gysgodi ynddo.
Ar Foel Famau, y Comisiwn Coedwigaeth mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych sy'n rheoli min y goedwig er mwyn darparu ymyl meddal, brith-heulog lle mae'r rhostir a'r goedwig yn cyfuno, yn hytrach na min caled y goedwig draddodiadol sydd i'w weld yn gyffredin mewn planhigfeydd conifferau. Mae hwn yn creu cysgodfa dda i'r adar yn ogystal â rhoi'r cyfle i'r grug adfer rhwng y coed, a sicrhau bod bwyd a lle nythu bob amser wrth law. Mae rhai rhannau o'r goedlan gonifferau wedi'u torri i lawr, gan roi cyfle i'r grug adnewyddu; hefyd cawsant eu hail-blannu â choed brodorol fel Criafolen, Bedwen Arian, Pinwydden yr Alban. Yr enw ar y rhan yma, a blannwyd gan blant ysgol, yw Cartref y Grugieir.
Diddordeb gweld beth sy'n digwydd? Edrychwch am yr ymweliadau a drefnir â chuddfan adar Llandegla ym mis Mai.
Creu Tir Cors (llaciau) - Moel Famau
Caiff llaciau eu creu drwy balu clytiau ar y mynydd, eu leinio gyda leinin clai bentonite ac wedyn gosod y pridd mawnog yn ei ôl. Yn nhreigl amser, bydd y rhain yn llenwi â dŵr gan greu lle corslyd a gwlyb sy'n ddelfrydol i blu'r gweunydd dyfu ynddo.
Adfer y Rhostiroedd
Drwy ddefnyddio beiciau modur a cherbydau 4x4 yn anghyfreithiol, cafodd rhannau o Fynyddoedd Llantysilio eu difrodi'n druenus. Yn ystod cyfnod Project y Grug a'r Caerau, byddwn yn gweithio i hyrwyddo adfywiad yr ardaloedd hyn a'u gwneud yn rhostiroedd grug unwaith yn rhagor. Rydym yn gweithio hefyd i gulhau'r llwybrau hynny lle bu ymwelwyr yn eu lledu ac achosi craith ar y dirwedd.
Er mwyn rhoi hwb i dyfiant y grug yn y rhannau sydd wedi'u difrodi, rydym yn torri'r lleiniau o rug yn yr hydref pan fydd y grug yn gyfoethog o hadau. Rhoddir y grug a dorrwyd mewn byrnau i'w gwneud yn haws eu cludo i'r lleiniau a ddifrodwyd. Mae'r pridd ar y rhan sydd wedi'i ddistrywio yn cael ei gynhyrfu i greu tir mwy garw lle gall planhigion dyfu. Mewn rhai achosion, mae hadau penodol yn cael eu gwasgaru er mwyn meithrin glaswellt y mynydd i dyfu'n gyntaf, yna mae'r byrnau grug yn cael eu gosod ar y llain. Mae hadau'r grug yn syrthio i'r ddaear ac mae'r malurion grug yn amddiffyn yr hadau rhag y tywydd. Os caiff lonydd, bydd y grug yn adnewyddu'n araf a chreu llain o rostir unwaith eto. Yn y rhannau hynny o fynydd lle mae erydu'n bygwth y gwaith adfer, caiff malurion cangau'r coed eu rhoi ar ben y grug i'w amddiffyn.
|



Y Grug a'r Caerau 













