|
Helpiwch i warchod ein Cefn Gwlad |
|
|
|
Mae cerbydau sy’n tresbasu’n anghyfreithiol oddi ar y ffordd yn achosi niwed mawr iawn i aceri o’r rhostir grug sy’n werthfawr i’r bywyd gwyllt ac amaethu. Os rydych chi’n dyst i weithgareddau anghyfreithiol oddi ar y ffordd dyma ganllawiau syml ichi’u dilyn ....
Sut i roi gwybod am ddefnyddio cerbydau oddi ar y ffordd yn anghyfreithiol. Os gwelwch weithgareddau anghyfreithiol yn digwydd yna………..…
• Ffoniwch yr Heddlu ar
0845 6071002
ar unwaith i roi gwybod iddynt am y digwyddiad.
Peidiwch a gadael cartref hebddo!
• Peidiwch a mynd yn agos at y defnyddwyr. • Gwnewch nodyn o rifau’r beiciau neu o’r cerbydau a ddefnyddiwyd i gludo’r beiciau.
Ar ôl y digwyddiad …
• Os oes gennych rifau cofrestru’r cerbyd, ffoniwch Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych ar 01352 810614. Anfonir yr wybodaeth at yr Heddlu. • Llenwch ffurflen adrodd NWAIMOR (North Wales Alliance to Influence the Management of Off Roading) (hyd yn oed os roeddech wedi cysylltu â’r heddlu i ddechrau ac anfonwch at NEWIMOR neu at Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych . Gellir llwytho’r ffurflen i lawr yma ac e-bostio’n uniongyrchol at NWAIMOR a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych neu gallwch ffonio’r Gwasanaeth Cefn Gwlad ar 01352 810614 i gael copi ar bapur. • Anfonwch unrhyw wybodaeth fel amser y gweithgaredd, lleoliad, nifer o feiciau at Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych neu eich Swyddog Heddlu Lleol. • Cofiwch, oni bai bod rhywun yn dweud am y gweithgaredd neu’n rhoi gwybodaeth amdano, ni fydd yr awdurdodau priodol yn gwybod ei fod wedi digwydd. Po fwyaf y troseddau a adroddir amdanynt, po uchaf fydd proffil y broblem.
 

|