| Grugiar Ddu |
|
|
|
Y rugiar ddu (Black Grouse, Tetrao tetrix) - mae'r rugiar ddu yn rhywogaeth brin; ac mae'r niferoedd yn beryglus o isel ar draws Cymru. Eu hoff fangre yw ffriddoedd grug o oed gwahanol, grug ifanc a llus fel bwyd, mannau agored fel llecyn arddangos, tyfiant cryf i nythu ac i guddio ynddo ac ymyl coedwig i gael cysgod.
Cafwyd llwyddiant ar Foel Famau hefo'r rugiar ddu ers cynnal archwiliad blynyddol dros y blynyddoedd diweddar. Mae'r nifer wedi cynyddu o un aderyn gwryw ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif i 16 o rai gwryw ar y ffridd rhwng Moel Fenlli a Moel y Parc yn 2008. Mae'r rugiar ddu yn paru yn gynnar yn y gwanwyn ac mae yn olygfa ryfeddol - cofiwch am ein trefniadau gwylio a drefnir gennym ddiwedd mis Ebrill, dechrau mis Mai. Cadwch lygad am adar mawr du hefo plu gwyn ar eu cynffon, yn neidio allan o'r grug ac yn hedfan yn isel ger y llawr hefo symudiad adenydd sydyn . I weld lluniau'r RSPB o'r rugiar ddu, agorwch y linc. (Mae angen cael Adobe Flash Player) I glywed seinau yr RSPB agorwch y linc.
|



Y Grug a'r Caerau 






