| Rheolaeth Rhostir |
|
|
|
Cafodd ein rhostiroedd eu rheoli'n ddwys dros yr oesoedd, ac er mwyn eu cadw mewn cyflwr da mae angen gwahanol ddulliau o reoli. Bydd tirfeddianwyr a phorwyr yn gosod defaid i bori ar y bryniau, a bydd y rhain yn bwyta'r tyfiant ifanc, yn rheoli'r coed a'r llwyni, ac yn cadw'r grug a'r llus yn fyr. Mae llosgi grug yn ddull effeithiol dros ben o roi cymorth i blanhigion y mynydd i adfywio. Bydd y gwres a'r mwg yn agor hadau'r grug sydd ynghwsg yn y pridd ac yn hyrwyddo'r egino. Ar ôl llosgi'r hen rug, mae planhigion y mynydd yn adfywio yn ystod y flwyddyn gyntaf -y llus i ddechrau ac yn gyflym wedyn bydd y grug yn tyfu gan greu carped porffor.
Rhaid dilyn y Cod Llosgi Grug a Glaswellt. Cliciwch yma i weld y Canllawiau Llosgi. Er mwyn peidio aflonyddu ar yr adar sy'n nythu ar y ddaear a lleihau'r risg o dannau'n ymledu'n wyllt, ceir yr hawl i losgi rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth yn unig. Golyga hyn mai ar ychydig iawn o ddiwrnodau bob blwyddyn y gellir llosgi. Mae'n weithred sy'n mynnu llawer o bobl - pedwar o leiaf i losgi'n ddiogel.
Torri Dull arall o reoli yw torri'r grug. Y brif fantais yw y gall un unigolyn wneud y gwaith torri ar unrhyw dywydd, a gellir rheoli'r lleiniau o dir sy'n cael eu torri. Mae'r planhigion yn adfywio'n arafach ar ôl torri, gan adael cymysgfa sydd â mwy o rug ac o lus ynddi.
Pam dylwn ni reoli'r Rhostir? Pan fydd planhigion grug dros tua 15 oed maent yn tyfu'n goesog ac yn dechrau dirywio. Nid yw'r grug sydd yn y cyflwr hwn o werth i anifeiliaid y mynydd; bydd y grug yn dechrau marw a bydd tyfiant arall yn cymryd ei le. I gadw'r rhostir mewn cyflwr da mae'n llesol i reoli bob yn bymtheg mlynedd i sicrhau strwythur o oedrannau gwahanol gan ddarparu tyfiant ifanc i'r defaid a'r bywyd gwyllt, a thyfiant dyfnach yn gysgod i'r adar sy'n nythu.
Mae llosgi a thorri'n ddull effeithiol o reoli Chwilen y Grug sy'n bygwth lladd rhannau helaeth y rhostir.
Rhedyn ac Eithin Mae nifer o rywogaethau ymledol yn byw ar y rhostir hefyd, a'r eithin a'r rhedyn yn arbennig o anodd eu rheoli. Tyfa'r naill a'r llall yn gyflym ar ôl llosgi, ond gall defaid fwyta egin yr eithin ar blanhigion ifanc. Os llosgir lleiniau o rostir grug lle mae rhedyn, gall y rhedyn adfywio a datblygu'n ardal sydd ag ynddo redyn yn bennaf, gan leihau'r darn o dir y gellir ei bori a'r gwerth i'r bywyd gwyllt. Mae drogod hwythau'n hoffi ymgartrefu yn y rhedyn.
Y dull mwyaf effeithiol o reoli rhedyn yw chwistrellu â'r chwynladdwr Asulox. Ar raddfa fechan, mae modd gwneud hyn â llaw gan ddefnyddio sach cefn a chwistrellwr a gan dargedu'r planhigion unigol. Ar raddfa fwy, gellir defnyddio bŵm ar gefn tractor. Mewn rhannau mawr, y ffordd gyflymaf ac effeithiolaf o ran y gost ac un sy'n deg i'r amgylchedd yw chwistrellu o'r awyr â hofrennydd. Mae Asulox yn chwynladdwr sy'n lladd rhedyn yn unig heb niweidio'r planhigion oddi tanodd, mae'n hydawdd mewn dŵr
|



Y Grug a'r Caerau 













