| Trogod |
|
|
|
Mae trogod (Ixodes ricinus) yn gyffredin iawn ar y mynydd, gan fyw ar y rhedyn yn bennaf. Maent yn greaduriaid bach iawn (tua 2mm o hyd) ac yn edrych fel pry cop wedi'i fflatio. Maent ar eu hanterth rhwng mis Ebrill a mis Hydref gan ffynnu mewn lleoedd gwlyb a chynnes.
Gall trogod drosglwyddo haint Louping i'r defaid gan achosi cymalau anystwyth, ac mae'r haint yn gallu lladd y Rugiar goch. I amddiffyn y defaid rhag yr haint mae tirfeddianwyr a phorwyr yn dipio'u defaid yn rheolaidd.
Mae trogen yn cydio mewn unrhyw beth sy'n ei chyffwrdd wrth fynd heibio. Os buoch yn cerdded mewn tyfiant trwchus, mewn rhedyn yn arbennig, yna peth doeth fyddai chwilio yn fanwl am y trogod ar eich ci ac arnoch chithau. Weithiau, mae trogen yn cerdded ar y croen am awr neu ddwy cyn glynu. Yn aml iawn, maent yn chwilio am leoedd ar y corff sy'n anodd eu cyrraedd, fel y ceseiliau.
Y ffordd orau i osgoi cael eich brathu gan drogod yw peidio â cherdded drwy'r rhedyn trwchus nac eistedd mewn tyfiant. Gall milfeddyg roi cyngor ar sut i dynnu trogen, ac mae ‘tynnwr trogod' ar gael. Wrth iddi sugno gwaed mae trogen yn chwyddo ac yn troi'n lliw llwyd, pan fydd hi'n llawn mae'n syrthio oddi ar y croen. Dylech dynnu trogen yn ofalus a heb adael darn ohoni ar ôl ar y croen.
Mae trogod yn cludo haint Lymes a gallant ei drosglwyddo i bobl drwy eu brathiad. Dyma rai o symptomau'r anhwylder - poenau yn y cyhyrau a'r cymalau, cur pen, blinder a thwymyn. Os cewch unrhyw un o'r symptomau hyn ar ôl cael eich brathu gan drogen, ewch i weld y meddyg.
I gael gwybod mwy am Redyn, ewch i'r dudalen Rhedyn drwy glicio yma
Yn ôl i'r dudalen Rheoli Rhostiroedd
|



Y Grug a'r Caerau 






