| Chwilen y Grug |
|
|
|
Mae Chwilen y Grug (Lochmaea suturalis) yn peri llawer o broblemau mewn nifer o ardaloedd. Mae'r chwilod yn bwyta'r grug gan achosi i'r planhigion hynaf farw, gall y grug ifanc wella am ei fod yn fwy gwydn. Os bydd y chwilen yn ymosod ar hen blanhigion, gall darnau o rostiroedd grug farw.
Dull effeithiol o hybu grug i adfywio yw drwy losgi'r lleoedd sydd wedi'u heffeithio gan y chwilen. Mae torri'r grug yn llai effeithiol oherwydd gall y chwilen fyw mewn hen ddail o dan y grug yn ystod y gaeaf gan ymddangos eto pan ddaw'r tywydd cynnes. Mae torri'r grug yn gallu dinistrio prif fwyd y chwilen, ond nid yw'n ei lladd. Anaml iawn y gwelir y chwilen ond ceir tystiolaeth o'i gweithgaredd yn amlwg. Bydd y planhigion a effeithir arnynt yn colli'u lliw gwyrdd llachar ac yn ymddangos yn noeth ac yn llwyd, bydd y coesau'n troi'n lliw oren. Os na fydd y chwilod yn cael eu hatal, bydd grug yn marw a'r darn o dir yn troi'n laswelltir garw. Yn Seland Newydd, lle mae'r grug yn rhywogaeth ymwthiol, cyflwynwyd Chwilen y Grug. Maent wedi llwyddo i ladd y grug.
|



Y Grug a'r Caerau 






