|
Canllawiau ar sut i losgi grug
Os ydych chi am losgi grug ym Mryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio, bydd angen ichi wneud hyn:
- Oes cynllun llosgi ar y tir lle rydych chi'n dymuno llosgi? Os nad oes, bydd angen ichi gael un. Gall y project y Grug a'r Caerau eich helpu. Cysylltwch â'r Swyddog Maes Rhostiroedd, Nick Critchley, drwy glicio yma.
- Yn y cyfnod rhwng Hydref 1af a Mawrth 31ain yn unig y gellir llosgi. Argymhellir yn gryf mai rhwng y dyddiadau hyn yn unig y dylech dorri'r grug hefyd, neu fel arall bydd perygl ichi darfu ar yr adar sy'n nythu ar y ddaear.
- Os ydy'r tir yn cael ei warchod o dan naill ai SSSI neu SAC bydd rhaid ichi gael caniatâd oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru cyn ichi gael llosgi. I weld ydy'r tir yn cael ei warchod fel hyn, gallwch edrych ar y map drwy glicio yma.
- Ydych chi am losgi tir sydd y tu mewn i, neu heb fod ymhell o Fryngaer Oes yr Haearn, neu unrhyw Heneb Restredig arall? I gael gwybod ydy'r tir yn cael ei warchod fel hyn, cliciwch y linc yma a defnyddio'r linc i Gymru Hanesyddol sydd ar waelod y dudalen. Peidiwch â llosgi ar nodwedd archeolegol fel rhagfur bryngaer neu domen gladdu, gall llosgi niweidio'r archeoleg bwysig, a gall andwyo Heneb Restredig arwain at erlyniad. Cyn llosgi mewn bryngaer neu yn ymyl bryngaer neu Heneb Restredig arall, rhaid ichi gymryd gofal ychwanegol a rhoi gwybod i Cadw. Ffoniwch Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a fydd yn gallu rhoi help ichi gael caniatâd ac efallai help gyda'r llosgi. Ffoniwch 01352 810614.
- Rhowch wybod i'ch cymdogion, a byddwch yn ystyriol o'u heiddo a'u buddiannau. Efallai bydd eich cymdogion hwythau'n dymuno llosgi felly gallwch fanteisio ar y cyfle i gydweithio.
- Ceisiwch beidio â llosgi ar y penwythnos pan fydd y mynydd yn brysur. Peidiwch â dechrau llosgi cyn y wawr nac ar ôl y machlud.
- Gofalwch bod digon o bobl yn bresennol i allu rheoli'r tan. Argymhellir o leiaf pedwar o bobl. Mae nifer o staff a gwirfoddolwyr gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a all eich helpu. Ffoniwch 01352 810614 i gael sgwrs ag un o'r wardeniaid.
- Rhaid ichi sicrhau bod yr offer iawn gennych chi i gynnau, rheoli a diffodd tanau. Mae gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych gyflenwad o guryddion tân i reoli tanau, a chyfarpar i'ch helpu chi i gynnau a diffodd tanau, efallai gallant fod o gymorth ichi. Ffoniwch 01352 810614 i weld a allwn ni eich helpu.
- RHAID ichi ffonio Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru cyn llosgi a rhoi gwybod iddynt eich bod yn llosgi o dan reolaeth. Ffoniwch nhw ar 01745 343431 a gofyn am siarad â Rheolaeth Tanau. Bydd rhaid ichi roi'r wybodaeth ganlynol:
- Lleoliad eich tân
- Yr amser cychwyn a'r amser gorffen
- Rhif ffôn i gysylltu â rhywun sydd ar y safle.
- Llosgi ar lethr? Bydd tanau'n creu'u drafft eu hunain ac yn symud yn gyflym i fyny'r bryn. Byddwch yn arbennig o ofalus ar lethrau a llosgwch i lawr bob amser gan losgi clytiau bach o dir. Diffoddwch y tân cyn iddo gael cyfle i fynd allan o reolaeth.
- Dewiswch eich lle i losgi yn ôl y gwynt. Mae llosgi mewn gwynt uchel yn golygu bod y fflamau'n teithio'n rhy gyflym ac yn llosgi blaen y grug yn unig, felly bydd y planhigyn yn adfywio'n arafach. Os ewch allan i losgi ar dywydd sych iawn, efallai bydd y tân yn rhy boeth ac yn llosgi'n ddwfn i mewn i'r fawnog gan olygu na fydd y grug yn ail-dyfu am flynyddoedd. Ceisiwch ddewis diwrnod o awel ysgafn i losgi er mwyn i'r gwynt chwythu'r fflamau tuag at fwlch tân naturiol, neu un a gafodd ei baratoi o flaen llaw.
- Cofiwch, bydd llosgi'r rhedyn yn hybu mwy o redyn. Yn yr un modd, mae llosgi'r eithin yn gwneud iddo adfywio - ond gall defaid bori ar egin ifanc yr eithin. Pan allwch chi, torrwch yr eithin i atal y tyfiant nid ei losgi.
- Peidiwch byth â gadael y tân heb unrhyw un yn bresennol, a gofalwch bod y tân wedi'i ddiffodd yn llwyr cyn gadael.
- Cofiwch fod gofynion cyfreithiol llym ynghylch llosgi.
- Mae'n drosedd i achosi poendod oherwydd mwg (Deddf Aer Glân 1956)
- Os yw'r tir yn SSSI neu SAC, gall peidio rhoi gwybod i'r CCC olygu dirwy (Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwyo 2000)
- Mae'n drosedd (o dan y Ddeddf Henebion ac ardaloedd Archeolegol 1979) achosi difrod i unrhyw Henebion Rhestredig. Gall erlyniad olygu dirwy drom neu hyd yn oed gyfnod o garchar.
Llwythwch i lawr gopi i'w brintio o'r canllawiau hyn yma.
Cliciwch yma i gael gweld y cod llawn ynghylch llosgi Grug a Glaswellt - heathergrassburningcodee.pdf
O'i wneud yn iawn, gall llosgi fod yn hawdd ac yn ddiwrnod i'w fwynhau. Dilynwch y canllawiau uchod a bydd eich diwrnod yn ddidrafferth.
|