Hafan i Rheolwyr Tir Argraffu Ebost

Mae rheoli’r rhostiroedd yn hanfodol; gall olygu bod y tir pori’n gwella a bod nifer yr anifeiliaid plagus yn gostwng. Mae modd  bugeilio’r defaid drwy reoli’r tir, ac oherwydd y rheoli efallai byddant mewn cyflwr gwell pan fyddant yn gadael y mynydd.  Hefyd,  bydd rheoli fel hyn yn cael dylanwad da ar y bywyd gwyllt sy’n byw ar y rhostiroedd grugog.  Bydd rheoli parhaus yn lleihau’r risg o danau gwyllt dinistriol a’r effaith  caiff y tannau hyn yn y tymor hir.

Bu rheoli’n fwy anodd yn ystod y blynyddoedd diweddar, a hynny am nifer o resymau fel y  newid mewn arferion amaethu a’r nifer o weithwyr sydd ar gael, ond eto mae’n dal yn  bosibl, ac yn dal yn bwysig. Mae’r canllawiau hyn yn eich tywys chi drwy’r broses o dorri, llosgi, rheoli’r rhedyn a sut i roi gwybod am ddefnyddio cerbydau yn anghyfreithiol.

 

Eisiau  llosgi grug? Cliciwch yma am ganllawiau

  

Eisiau torri ar eich mynydd? Efallai bydd y dudalen hon yn help ichi. Cliciwch yma.

  

Trafferth efo rhedyn? Efallai cewch gymorth yma

  

Eisiau rhoi gwybod am ddefnyddio’r mynydd yn anghyfreithlon gan gerbydau modur? Ewch i’r ddolen hon.