Llewyrch y Bryngaerau- Gwerthusiad

Drwy ysbrydoliaeth y digwyddiad yn ‘Illuminating Hadrian’s Wall’ yn Northumberland yng Ngwanwyn 2010, ac ymchwil diweddar i ryng-welediad rhwng bryngaerau Canolbarth y Gororau gan David Matthews, cynigwyd cynnal digwyddiad â thema fyddai’n arbrawf enfawr i geisio cysylltu pobl leol pob bryngaer gyda’i gilydd, a chyfathrebu rhwng y bryngaerau drwy ddefnyddio golau.
Amcanion
Roedd y digwyddiad i ganolbwyntio ar godi proffil y prosiectau a’u bryngaerau/ardaloedd o fewn y themâu canlynol: • Rhyng-welediad rhwng bryngaerau • Cael y Gymuned i gymryd rhan • Bod yn berthnasol yn Hanesyddol • Cymunedau ddoe a heddiw - cysylltu pobl gyda’u hynafiaid
Mae’r bryngaerau ‘Llewych’ yn cynnwys: Castell Maiden, Castell Beeston, Kelsborrow, Helsby, Burton Point, Moel y Gaer Rhosesmor, Penycloddiau, Moel Arthur, Moel Fenlli a Chaer Drewyn.
Lawrlwythiadau:
Cipolwg ar yr adborth a gafwyd wedi’r digwyddiad. Ar ôl y digwyddiad, anfonwyd holiadur at yr holl gyfranogwyr yn gofyn am adborth. Cafwyd y sylwadau a ganlyn...
Caer Drewyn
• Wedi ei drefnu’n dda. Marsialyddion / goruchwylwyr yn helpu a gwybodus. Gallai fod wedi ei hysbysebu’n well • Gwnaethom ni gyd ei fwynhau, roedd yn noswaith ardderchog i’r teulu, yn addysgiadol ac yn hwyl!
Moel Fenlli
• Roedd wedi ei drefnu’n dda, ac yr oedd staff y noson yn gyfeillgar ac wedi paratoi’n dda • Roedd hwn yn ddiddorol iawn ac yn llawn hwyl hefyd! Roedd wedi ei drefnu’n dda: nid yn unig cydlynu’r fflerau ayb, ond hefyd cael y fath nifer o bobl i fyny ac i lawr Foel Fenlli’n ddiogel. Roedd yn syniad da eu bod wedi dod â chacen a siocled poeth. Anfonwch ein diolchiadau a’n gwerthfawrogiad i’n stiwardiaid os gwelwch yn dda
Moel Arthur
• Diolch i chi am fy nghynnwys i yn eich grŵp ar Foel Arthur y pen wythnos yma. Roedd o nid oedd yn unig yn brosiect ardderchog i fod yn rhan ohono, ond yn brofiad syfrdanol; y fflerau, y goleuadau, y lleuad lawn a’r bobl hyfryd. Roedd yn brofiad na ellid fod wedi ei golli. Diolch yn fawr • Gormod o amser yn cerdded efallai ‐ roedd braidd yn rhynllyd i fyny yno! • Roedd hwn yn brofiad pleserus iawn ym mhob ystyr ‐ wedi ei drefnu’n dda gan bobl gyfeillgar ond hefyd effeithlon!
Penycloddiau

• Wedi mwynhau’r digwyddiad yn fawr iawn, ond hoffwn pe baem wedi derbyn eich cyngor a mynd â diod boeth gyda ni! Roedd y digwyddiad hwn wedi ei drefnu a’i gydlynu’n dda, gyda chymysgedd da o bobl o bob oed yn cymryd rhan. Roedd hi’n hyfryd gweld y Sgowtiaid ynghlwm â’r digwyddiad! • Hoffwn fynegi ein diolchiadau i drefnwyr llewyrch y bryngaerau, yn enwedig i Helen a Rachel ar safle Penycloddiau. Cawsom ni noswaith ddiddorol dros ben ‐ er braidd yn oer! Gwnaethom ni ddysgu llawer am fryngaerau’n gyffredinol, yn enwedig Penycloddiau, ac roedd hi’n wych ymuno â’r fflerau i fryngaerau eraill. Diolch yn fawr iawn am adael i Sgowtiaid Dinbych fod yn rhan o’r profiad hwn.
Moel y Gaer
• Gwnaethom ni wir fwynhau’r digwyddiad ‐ roeddem ni wedi bod i fyny’r fryngaer hon (a nifer o rai eraill) sawl gwaith, ond teimlwn fod hwn yn arbennig ac unigryw.... rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi bod yn rhan o’r fath arbrawf ‐ ar garreg ein drws! Mae rhan o’m teulu wedi byw ar y mynydd am nifer o genedlaethau, ac ni allwn lai na thybio os oedd fy hynafiaid wedi gweld goleuadau tebyg! Diolch am ddigwyddiad diddorol, wedi’i drefnu’n dda. • Trueni mawr na chaniatawyd coelcerthi. Mae gan Rosesmor draddodiad o goelcerthi ...
Burton Point
• Rwy’n meddwl fod y digwyddiad yn un rhagorol oherwydd gwybodaeth yr archeolegydd a warden RSPB. Roedd yn rhyfeddol dychmygu pobl yr oes a fu’n medru anfon signal at ei gilydd. Byddwn i’n dau’n hoffi gwirfoddoli ar gyfer unrhyw beth arall.
Helsby
• Gwyddwn i nemor ddim am fryngaerau cyn y digwyddiad hwn, oedd yn amlwg yn llwyddiant mawr iawn. Pe bai’r tywydd wedi bod yn gymylog neu lawog, byddai’r canlyniad yn llawer iawn gwahanol!! • Mwynheais i’r digwyddiad hwn yn fawr iawn oedd wedi ei drefnu’n dda iawn. Diolch am eu trefnu. Roedd yn deimlad braf bod yn rhan o ddigwyddiad hanesyddol. • Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi am adael i mi fod yn rhan o’r digwyddiad hwn. Roedd yn brofiad pleserus ac yn addysgiadol hefyd.

Beeston
• Digwyddiad pleserus wedi ei drefnu’n dda iawn. Cyflwynwyd gwybodaeth dda. Roedd staff y digwyddiad yn wybodus iawn. Torf dda o bobl. Hoffwn wirfoddoli ar gyfer unrhyw brosiectau yn y dyfodol.
• Diolch i chi am drefnu’r arbrawf. Ni allech fod wedi trefnu gwell noson, roedd y tywydd yn fendigedig ac roedd gweld yr holl safleoedd eraill yn fflachioeu tortshis at ei gilydd yn hudol • Mwynheais y noson yn fawr iawn, llawer iawn mwy diddorol nag y disgwyliais. Roeddem yn ffodus iawn i gael golygfa ysblennydd o’r lleuad. Ymdeimlad hyfryd o hanes! • Roeddwn yn ddigon ffodus neithiwr i gymryd rhan yn llewyrch y bryngaerau yng Nghastell Beeston ‐ digwyddiad rhagorol a chofiadwy! Roedd yn gyffrous cyfathrebu’n llwyddiannus gyda naw bryngaer arall drwy olau ‐ yn union fel y gallai ein hynafiaid fod wedi gwneud. Roedd yn brofiad a fydd yn aros gyda mi am amser hir. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant am wneud yr achlysur yn un cofiadwy. Hoffwn pe baem yn medru ei wneud i gyd eto!
Kelsborrow
• Roedd hi’n amlwg fod llawer iawn o baratoadau wedi eu gwneud ar gyfer y digwyddiad hwn ac roeddwn yn llawn edmygedd o ba mor esmwyth aeth popeth. Roedd y gŵr bonheddig oedd yn cydlynu’r digwyddiad hwn yn rhagorol ac yn wybodus iawn. Diolch yn fawr am noson bleserus! • Diolch am drefnu’r digwyddiad llewyrch y bryngaerau. Roedd hi’n yn rhagorol bod yn rhan ohono. Profodd David Matthews, cydlynydd ein safle yn Kelsborrow, yn un gwybodus iawn. Yn wir, eglurodd yr arbrawf yn gyffredinol yng nghyd‐destun y bryngaerau. Diolch unwaith eto i chi a’r holl bobl fu’n helpu i wneud y noson yn bosibl. Mewn difrif, roedd yn rhywbeth i’w gofio.
Maiden
• Diolch yn fawr iawn i Colin Slater a Dave Morris am eu cymorth i hebrwng fy ngŵr a minnau i lawr at ein cerbyd ar ôl llewyrch y bryngaerau yng Nghastell Maiden. Gwnaethom ni fwynhau’r achlysur yn fawr iawn.
 
|