|
Mae ardal y Grug a’r Caerau’n safleoedd gwych ar gyfer gwaith maes mewn Hanes, Daearyddiaeth, a Gwyddoniaeth ac yn gyfle i gasglu gwybodaeth sydd yn ychwanegu at ddatblygu cynaliadwyaeth, dinasyddiaeth fyd-eang, cyfrifoldeb a phynciau eraill y Cwricwlwm Cenedlaethol drwy ddysgu a seilir ar sgiliau.
Darpara bryngeyrydd fel Penycloddiau ger Nannerch y potensial i ddysgu ar gyfer Cyfnod Allweddol 1, 2 a 3 Hanes, yn arbennig Cyfnod allweddol 2 ‘ Y Celtiaid’ a thirwedd a grug y rhostir yn gefndir diddorol ar gyfer dysgu gweithredol am ‘Pethau Byw yn eu Cynefin’ a ‘Newid Amgylcheddol’, gyda chynefinoedd, cylchoedd bywyd, ecosystemau, pwysedd ymwelwyr a ffactorau sydd o fewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol.
Cyrraedd allan
Os dymuna eich ysgol ymweld â’r ardal ar daith dan arweiniad neu’n am i un o’r swyddogion ymweld â’ch ysgol, yna cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion sydd ar y wefan. Hoffem wneud hyn bob dydd, ond yn anffodus nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.
Taith gerdded gydag arweinydd
Gall taith hanner diwrnod gymryd tua 1½ i 2½ awr. Gall y pynciau a godir ar y daith gynnwys defnyddio tir, pwysedd ymwelwyr, ffurfio’r dirwedd, tystiolaeth ddaearyddol yn ogystal â chefnogi materion dinasyddiaeth ( fel effaith eich ffordd o fyw ar yr amgylchedd, cynaliadwyaeth a chadw’n iach) a’n hanes ac archeoleg gan roi cyfle i’r plant ymweld a’u treftadaeth Geltaidd. Mae gweithgareddau darllen map gan gynnwys cyfeirnod grid ar gael ar eich cais hefyd.
Ymweld â’r safle
Croeso ichi ymweld â’r safleoedd hyn hebom ni. Rydym yn gweithio ar fapiau newydd i ddehongli’r safleoedd hyn ar hyn o bryd ar gyfer y safleoedd rydym yn eu gwarchod a gallwch lwytho i lawr hefyd daflenni Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych ‘23 o Safleoedd Cefn Gwlad ’ a ‘Darganfod Moel Famau & Loggerheads’ . Cewch ynddynt wybodaeth am doiledau, parcio a phethau defnyddiol eraill.
Gweithgareddau i’w llwytho i lawr
Rydym yn ychwanegu at ein gwefan drwy’r amser, felly daliwch ati i wylio’r Cyswllt Darganfod a’r Parth Hwyl am syniadau a gweithgareddau addysgol newydd.
Digwyddiadau i ysgolion
Yn rhan o Ŵyl Gerdded Sir Ddinbych, byddwn yn trefnu dyddiau i’r ysgolion gael bwcio i dreulio diwrnod efo ni a bydd gweithgareddau hwyliog a digwyddiadau arbennig. Am fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig, ‘y cyntaf i’r felin…’. Trefnir y dyddiadau a’r manylion yn nes ymlaen.
Hyfforddi Athrawon
Er mwyn ichi allu teimlo’n hyderus ynglŷn a’r lleoliad rydych yn ymweld a hi gyda’ch ysgol, ac er mwyn inni allu dangos y lleoedd gorau ichi ddod a’ch myfyrwyr, byddwn yn trefnu dyddiau i’r athrawon yn hwyrach eleni. Byddwn yn cysylltu’n nes at yr adeg, ond os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu sylwadau inni’u cynnwys a fydd yn gwneud eich ymweliad a’r ardal gyda’ch ysgol mor hwylus ag y bo modd, yna rhowch wybod inni a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cynorthwyo gymaint ag y gallwn.
Adnoddau Eraill
Cofiwch fod digon o bethau eraill i’w gwneud yn yr ardal a gobeithio y byddwch yn dod yma fwy nag unwaith. Dyma rai pethau eraill i’w gwneud : • Parc Gwledig Loggerheads bwciwch ar gyfer eich ysgol i wneud trochi yn yr Afon Alun. Galwch 01352 810614,
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
•Comisiwn Coedwigaeth - gweithgareddau hwyliog yn yr awyr agored i bawb. I gael trip i Foel Famau neu Barc Gwledig Loggerheads galwch ar y Tîm Hyfforddi Coedlannau ar 01352 810796. • Llwythwch i lawr y Pecyn Addysg Geoamrywiaeth o wefan Cyngor Sir Ddinbych , adran Addysg Cefn Gwlad www.sirddinbych.gov.uk/cefngwlad
Cistiau benthyg adnoddau i ysgolion
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ddwy gist adnoddau newydd a fydd ar gael i’r ysgolion i’w benthyg drwy system fenthyg Ysgolion Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Gyda chymorth athrawon lleol a Gyrfaoedd Cymru, mae Cronfa Oes yr Haearn a Cist Drysor y Rhostiroedd yn cael eu datblygu. Unwaith cânt eu profi, rydym yn gobeithio’u lansio ar ddechrau 2010. Ymhlith y cynnwys fydd gweithgareddau hwyliog, lluniau, synau a pdfs i’w llwytho i lawr. Dyma gasgliad a gwybodaeth ar sut i ymweld a beth i’w wneud ar y safle gyda’ch ysgol. Bydd deunydd llwytho i lawr o’r cistiau ar gael ar wefan y Grug a’r Caerau ar ôl iddynt gael eu datblygu.
|