|
|
Cais am wirfoddolwyr cadwraeth bryngaerau ar safle 2,500 o flynyddoedd oed |
|
|
Mae yna gais am wirfoddolwyr i helpu â thasg arbennig iawn ym mryngaer Caer Drewyn, Corwen, y mis yma. Dydd Mercher 21ain a dydd Iau 22ain bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Phrosiect y Grug a’r Caerau’n gwneud gwaith atgyweirio difrod erydiad ar yr heneb sy’n 2,500 o flynyddoedd oed ac maen nhw’n gofyn am help gan y cyhoedd â’r prosiect. |
|
Darllen mwy...
|
|
|
Diwrnod agored Coed Moel Famau |
|
|
|
Gweithgareddau, trochi yn y llyn, arddangosfeydd.
Dyma gyfle i gwrdd â rhai o staff Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych!
Maes parcio Coed Moel Famau. SJ172612.
Dyddiad: 23.07.2011
Amser: 10am - 4pm |
|
Codi Waliau Cerrig Sychion- Caer Drewyn |
|
|
|
Beth am roi cynnig ar- neu wella eich sgiliau o Godi Waliau Cerrig Sychion? Fe fyddwn yn ailgodi rhannau o wal y ffin sy'n gyfagos a Bryngaer Caer Drewyn, felly fe gewch hefyd ddysgu uchydig am y ffordd yr arferai ein hynafriaid fyw yma hefyd!
Cyfarfod: maes parcio Canolfan Hamdden, Corwen (SJ068442)
Dydd Mercher 20 a Dydd Iau 21 Gorffennaf, 10am |
|
|
Mae Bws Crwydro Bryniau Clwyd a Dyffryn yr Afon Ddyfrdwy yn ol. |
|
|
|
Cymerwch y cyfle i fwynhau cefn gwlad godidog Sir Ddinbych ar y bws gyda Gwasanaeth Haf Bws Crwydro Bryniau Clwyd a Dyffryn y Ddyfrdwy sydd yn rhedeg bob Dydd Sul.
Mae’r teithiau bws golygfaol yn cynnwys y Lein Las sy’n cysylltu’r Wyddgrug, y Rhyl, Dinbych, Rhuthun, Loggerheads, Bwlch yr Oernant, Llangollen a’r Waun, digon o leoedd i aros a mwynhau’r olygfa, cael picnic, mwynhau mynd am dro a llawer mwy. Mae’r Lein Werdd yn cysylltu Prestatyn â’r Rhyl, Llanelwy, Dinbych, Llyn Brenig, y Bala, Dolgellau, y Bermo.
|
|
Darllen mwy...
|
|
Diwrnod Adnabod Darganfyddiadau Daeareg ac Archeoleg |
|
|
Ydych chi wedi dod o hyd i eitem ddiddorol sy’n edrych fel pe gallai fod ag arwyddocâd hanesyddol? Ar ddydd Iau, Gorffennaf 21ain rhwng 11.00 a.m. a 3 p.m, fe fydd yna gyfle i chi ddod â’ch darganfyddiadau i Barc Gwledig Loggerheads lle bydd yna dîm o archeolegwyr a daearegwyr yn barod i roi cynnig ar eu hadnabod.
|
|
Darllen mwy...
|
|
|
|
|
<< Cychwyn < Yn ôl 1 2 3 4 5 6 7 Nesaf > Diwedd >>
|
|
JPAGE_CURRENT_OF_TOTAL |