Dehongli’r gorffennol – gan ddefnyddio meysydd parcio! Argraffu Ebost

Efallai bod ymwelwyr â Bryniau Clwyd yn fwy cyfarwydd â chodi taflen, pori panel gwybodaeth neu bori’r we i ddod o hyd i wybodaeth am yr ardal, ond mae ffynhonnell newydd i’w defnyddio i ddehongli’r gorffennol – y maes parcio hen ffasiwn.
Mae gwaith ar y gweill i gyflwyno nodweddion newydd ym maes parcio Bwlch Pen Barras, ym maes parcio Moel Famau mewn partneriaeth â’r Comisiwn Coedwigaeth.

Bydd y nodweddion yn cynnwys dyluniad newydd o’r Olygfan ym Mwlch Pen Barras i ddynwared gweddillion y tai crwn o’r Oes Haearn yn ogystal â’i gwneud yn haws i fynd at y nodwedd, Clawdd cerrig sychion i ddisodli trawstiau rheilffordd, wedi ei ysbrydoli gan y ffordd y cafodd bryngaerau eu hadeiladu gan ddefnyddio technegau tebyg i’r rhai a ddefnyddiwyd 2,500 o flynyddoedd yn ôl.  Bydd y nodweddion y mae’n rhaid eu cael mewn maes parcio, e.e. peiriannau parcio, yn cael eu gwneud i ffitio’u hamgylchedd yn well.
Dywedodd Erin Robinson, Swyddog y Grug a’r Caerau: “Mae meysydd parcio’n hanfodol i ymwelwyr a thrigolion allu mwynhau cefn gwlad; boed hynny fel lle i aros i fwynhau’r golygfeydd, lle i adael y car am y diwrnod, neu rywle i gychwyn eich ymweliad pan fyddwch chi’n mwynhau cefn gwlad ar droed, ar feic neu ar fws.
“Maen nhw’n lleoedd pwysig, ond maen nhw’n gallu tynnu oddi wrth yr harddwch a’r dreftadaeth o gwmpas, felly sut allwn ni helpu’r lleoedd hyn i ffitio’r ardal yn well, a dweud stori’r un pryd?  Drwy ddefnyddio nodweddion o’r gorffennol yn ein dyluniad, rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn ychwanegu haen arall at brofiad yr ymwelydd.
“Fydd yna ddim ailwampio enfawr, dim ychwanegiadau ‘parc antur’ mawr a dim a fydd yn tynnu oddi wrth y dirwedd o gwmpas; fe fyddwn ni’n gweithio efo’r tir i greu ymdeimlad o le.

 

car_park_viewpoint