| Cais am wirfoddolwyr cadwraeth bryngaerau ar safle 2,500 o flynyddoedd oed |
|
|
|
Mae yna gais am wirfoddolwyr i helpu â thasg arbennig iawn ym mryngaer Caer Drewyn, Corwen, y mis yma. Dydd Mercher 21ain a dydd Iau 22ain bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Phrosiect y Grug a’r Caerau’n gwneud gwaith atgyweirio difrod erydiad ar yr heneb sy’n 2,500 o flynyddoedd oed ac maen nhw’n gofyn am help gan y cyhoedd â’r prosiect. Mae bryngaer drawiadol Caer Drewyn, a elwir yn lleol yn Fynydd y Gaer yn unigryw yn yr ardal gan fod ei chloddiau anferth (rhagfuriau) wedi eu gwneud o garreg. Dros y blynyddoedd mae’r rhain wedi dechrau cwympo ac wedi blocio’r fynedfa wreiddiol. Bydd y digwyddiad ‘Trwsio’r Gorffennol’ y mis Medi yma’n gwneud gwaith trwsio’r erydiad ym mynedfa’r dwyrain drwy osod haen o bilen ar draws y fynedfa a’i gorchuddio â thyweirch i ddiogelu’r archeoleg a hefyd i wneud mynediad yn saffach. Bydd yr archeolegydd Erin Robinson ar y safle i siarad am hanes y fryngaer ac fe geir taith o’r safle ar y ddau ddiwrnod. Dywedodd Erin: “Mae Mynydd y Gaer yn safle sy’n annwyl iawn i lawer a bydd pobl yn ymweld ag o’n rheolaidd. Mae yma gyfoeth o hanes yn dyddio’n ôl filoedd o flynyddoedd gan fod y gaer wedi ei hadeiladu o gwmpas amser yr Oes Haearn 800BC-43AD ac wedi ei defnyddio ers hynny, yn cynnwys ymweliad gan Owain Glyndŵr! Heddiw mae’n gartref i ystod o fywyd gwyllt yn cynnwys melyn yr eithin a chennau prin. Mae angen eich help chi ar y fryngaer yn awr i sicrhau y gellir ei mwynhau yn y dyfodol, felly rydyn ni’n apelio am wirfoddolwyr i ddod i’n helpu ni i helpu’r fryngaer i sefyll am 2000 o flynyddoedd eto.” Mae Caer Drewyn yn Heneb Gofrestredig ac mae’r gwaith hwn wedi ei gymeradwyo gan Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Fe gynhelir y digwyddiad ar ddydd Mercher a dydd Iau Medi’r 21ain a’r 22ain . Cyfarfod am 10am yng Nghanolfan Hamdden Corwen, cyfeirnod grid SJ068442. Cynghorir gwisgo dillad ac esgidiau call a dewch â chinio pecyn a digon o ddiod. Mae’r daith i fyny i’r fryngaer yn cynnwys dringfa serth, gyson. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa Cefn Gwlad De Sir Ddinbych ar 01978 869619. Mae Prosiect y Grug a’r Caerau, sy’n brosiect tair blynedd, yn datblygu menter £2.3 miliwn ar gyfer gwaith cadwraeth yr ucheldir ac mae wedi derbyn grant o £1.5 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. I gael gwybodaeth bellach ewch i heatherandhillforts.co.uk. Gallwch ein dilyn yn awr ar twitter! Ewch i www.twitter.com/HeatherHillfort neu ymunwch â’r grŵp Facebook i gael mwy o ddiweddariadau ar y prosiect. |



Darganfod 






