|
Croeso i’r ail newyddlen y Grug a’r Caerau. Bu’n haf prysur dros ben i’r tîm eleni a bu nifer o bethau’n digwydd ledled ardal y project. Mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan, naill ai drwy dalu ymweliad â ni yn Sioe Dinbych a Fflint, drwy gymryd rhan yn yr Wythnos Gerdded, neu ddefnyddio’r daflen newydd ar Gaer Drewyn i ddarganfod bryngaer Corwen ar eich pen eich hun. Bu cloddi archeolegol cyffrous yn digwydd gan roi inni gipolwg ar ein cyndadau yn ogystal a llawer o waith rheoli rhostiroedd i wella’r cynefin ar gyfer y defaid a’r bywyd gwyllt. Tarwch olwg ar ein newyddlen i gael gweld nifer o erthyglau diddorol.
Mae gennym newyddion trist hefyd. Bu farw Michael Griffith, Cadeirydd ein Bwrdd Partneriaeth, yn ddisymwth wrth gerdded yn Eryri. Roedd yn ddyn rhyfeddol o egniol ac yn bleidiol dros ben i’r project Grug a’r Caerau. Byddwn yn gweld ei golled oherwydd ei gefnogaeth, ei frwdfrydedd a’i hwyl.
Fiona Gale Archeolegydd y Sir
PDF:
haf09summer.pdf
JPEG:
web_newsletter_summer_intro.jpg
web_newsletter_summer_visits.jpg
web_newsletter_summer_visits2.jpg
web_newsletter_summer_bike.jpg
web_newsletter_summer_bus.jpg
web_newsletter_summer_pycmound.jpg
web_newsletter_summer_grouse.jpg
web_newsletter_summer_bracken.jpg
web_newsletter_summer_mosaic.jpg
web_newsletter_summer_prestatyn.jpg
web_newsletter_summer_timeline.jpg
web_newsletter_summer_events.jpg
|