Hydref Gaeaf 2010 Argraffu Ebost

Mae’n bleser gennyf eich croesawu i’r rhifyn hwn o Newyddlen y Grug a’r Caerau.

Treuliais fy mywyd yng nghysgod bryngaer Penycloddiau, yn naturiol felly teimlais fraint o gael gwahoddiad i fod yn Gadeirydd Bwrdd Partneriaeth y Grug a’r Caerau.

Bu bryniau Clwyd yn ddylanwad mawr ar fy mywyd - dyma fy nghynefin. Gobeithio byddaf yn gallu rhannu swyn y bryniau hyn a chynorthwyo i’w gwarchod er mwyn i genedlaethau i ddod o fy nheulu, a phobl eraill, ddal i ffermio ac i ddod yma i fwynhau’r lle arbennig hwn fel y gwnes innau a fy nghyndadau.

Bu’n flwyddyn brysur i’r Cynllun Partneriaeth y Dirwedd; gan gynnwys hofrenyddion, teithiau cerdded her hirbell y bryngaerau, adfer ar raddfa fawr, prosiectau cloddio archeolegol, a llawer mwy.

Ar derfyn ein hail flwyddyn, a dechrau ein trydedd flwyddyn, a’r olaf, gallwn edrych yn ôl gyda balchder ar ein cyraeddiadau, ac edrych ymlaen at flwyddyn arall yn llawn mentrau cynhyrchiol a chyffrous.

Rod Williams, Cadeirydd

 

 autumnwintercym.pdf