Gylchlythyr Y Gwanwyn 2010 Argraffu Ebost
Croeso i Gylchlythyr Y Grug a'r Caerau - Gwanwyn 2010.

Dyma drydedd blwyddyn prosiect Y Grug a'r Caerau ac mae 2010 yn flwyddyn llawn dathliadau ar draws Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

Eleni byddwn yn dathlu 25 mlynedd ers dynodiad swyddogol Bryniau Clwyd yn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol, ardal a warchodwyd am ei harddwch a’i threftadaeth ers 1985.

Ym mis Hydref byddwn yn dathlu pen-blwydd y Tŵr Jiwbilî ar Foel Famau yn 200 oed. Yn 1810, gosodwyd carreg sail y cofadail i ddathlu jiwbilî aur y Brenin Siôr y III. Dau gan mlynedd yn ddiweddarach mae Moel Famau a Thŵr y Jiwbilî yn croesawu dros 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn gan ddarparu cefndir eiconig i fywydau pobl Sir y Fflint a Sir Ddinbych.

Darllenwch yma i gael mwy o wybodaeth am beth sydd yn mynd ymlaen yn y prosiect Y Grug a'r Caerau, hefo dathliadau, gwaith cloddio ac ati…

Rod Williams
Cadeirydd Partneriaeth y Grug a’r Caerau

 spring2010newscym.pdf