Newyddion
Cais am wirfoddolwyr cadwraeth bryngaerau ar safle 2,500 o flynyddoedd oed Argraffu Ebost
Mae yna gais am wirfoddolwyr  i helpu â thasg arbennig iawn ym mryngaer Caer Drewyn, Corwen, y mis yma.
Dydd Mercher 21ain a dydd Iau 22ain bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Phrosiect y Grug a’r Caerau’n gwneud gwaith atgyweirio difrod erydiad ar yr heneb sy’n 2,500 o flynyddoedd oed ac maen nhw’n gofyn am help gan y cyhoedd â’r prosiect.
Darllen mwy...
 
Diwrnod agored Coed Moel Famau Argraffu Ebost

Gweithgareddau, trochi yn y llyn, arddangosfeydd.

Dyma gyfle i gwrdd â rhai o staff Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych!

Maes parcio Coed Moel Famau. SJ172612.


Dyddiad: 23.07.2011

Amser: 10am - 4pm

 
Codi Waliau Cerrig Sychion- Caer Drewyn Argraffu Ebost

Beth am roi cynnig ar- neu wella eich sgiliau o Godi Waliau Cerrig Sychion? Fe fyddwn yn ailgodi rhannau o wal y ffin sy'n gyfagos a Bryngaer Caer Drewyn, felly fe gewch hefyd ddysgu uchydig am y ffordd yr arferai ein hynafriaid fyw yma hefyd!

 

Cyfarfod: maes parcio Canolfan Hamdden, Corwen (SJ068442)

Dydd Mercher 20 a Dydd Iau 21 Gorffennaf, 10am

 
Mae Bws Crwydro Bryniau Clwyd a Dyffryn yr Afon Ddyfrdwy yn ol. Argraffu Ebost

Cymerwch y cyfle i fwynhau cefn gwlad godidog Sir Ddinbych ar y bws gyda Gwasanaeth Haf Bws Crwydro Bryniau Clwyd a Dyffryn y Ddyfrdwy sydd yn rhedeg bob Dydd Sul.

Mae’r teithiau bws golygfaol yn cynnwys y Lein Las sy’n cysylltu’r Wyddgrug, y Rhyl, Dinbych, Rhuthun, Loggerheads, Bwlch yr Oernant, Llangollen a’r Waun, digon o leoedd i aros a mwynhau’r olygfa, cael picnic, mwynhau mynd am dro a llawer mwy.  Mae’r Lein Werdd yn cysylltu Prestatyn â’r Rhyl, Llanelwy, Dinbych, Llyn Brenig, y Bala, Dolgellau, y Bermo.

 

Darllen mwy...
 
Diwrnod Adnabod Darganfyddiadau Daeareg ac Archeoleg Argraffu Ebost
Ydych chi wedi dod o hyd i eitem ddiddorol sy’n edrych fel pe gallai fod ag arwyddocâd hanesyddol?
Ar ddydd Iau, Gorffennaf 21ain  rhwng 11.00 a.m. a 3 p.m, fe fydd yna gyfle i chi ddod â’ch darganfyddiadau i Barc Gwledig Loggerheads lle bydd yna dîm o archeolegwyr a daearegwyr yn barod i roi cynnig ar eu hadnabod.
Darllen mwy...
 
<< Cychwyn < Yn ôl 1 2 3 4 5 6 7 Nesaf > Diwedd >>

JPAGE_CURRENT_OF_TOTAL