Porth modern i orffennol hynafol Argraffu Ebost

Mae maes parcio a llecyn hardd sy’n cynnig golygfeydd ysblennydd dros Ddyffryn Clwyd wedi cael ei weddnewid yn borth trawiadol i’r gorffennol.

Mae’r maes parcio yng nghwr dwyreiniol Coed Llangwyfan yn fan cychwyn delfrydol i ymwelwyr i goedwig Llywodraeth y Cynulliad a bryngaerau cyfagos Penycloddiau a Moel Arthur, sy’n dyddio o Oes yr Haearn.

 

Pwrpas y gweddnewidiad hwn yw adlewyrchu’r dirwedd hanesyddol y mae’r maes parcio yn rhan ohoni, ac mae’n darparu amgylchedd ysgogol ar gyfer dysgu am dreftadaeth gyfoethog yr ardal.

wel-press-14356aGan ddefnyddio technegau codi waliau sych traddodiadol, mae crefftwyr wedi adeiladu cyfres o gloddiau sy’n diffinio’r maes parcio ac yn creu nodwedd arbennig sy’n cysylltu ymwelwyr â’r gorffennol.

Mae’r waliau sych yn adlais o olion y tai crynion a’r rhagfuriau (cloddiau’r bryngaerau) a welir o fewn y gadwyn ysblennydd o fryngaerau, a adeiladwyd tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, sy’n ymestyn ar draws Bryniau Clwyd a Mynyddoedd Llandysilio.

Gwnaed y cynllun yn bosibl drwy’r Prosiect Grug a Bryngaerau mewn partneriaeth â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, sy’n rheoli’r goedwig ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, gyda chyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac asiantaeth adfywio gwledig Cadwyn Clwyd.

Meddai Rachel Jones, Warden Partneriaeth Coedwig CCC a’r AHNE, “Roedd y maes parcio gwreiddiol yn llawn yn aml iawn, yn enwedig ar benwythnosau, ac roedd prinder lle parcio. Yn awr, gyda’r prosiect hwn, rydym wedi gallu darparu lle parcio ychwanegol a mynediad newydd i’r olygfa ysblennydd i bobl o bob gallu corfforol.

“Mae safle uchel y maes parcio, uwchben Dyffryn Clwyd, yn galluogi ymwelwyr i edrych dros y dyffryn tuag at weunydd Hiraethog a Mynyddoedd Eryri yn y pellter. Bydd y maes parcio ar ei newydd wedd hefyd yn cynnwys paneli newydd i ddehongli’r goedwig a’r dirwedd hynod.”

Rhoddodd Cadwyn Clwyd £35,000 o arian drwy Brosiect Ymdeimlad o Le Sir y Fflint, a gefnogir gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013. Mae’r Cynllun Datblygu Gwledig yn cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Meddai Keira Derbyshire, Swyddog Prosiect Cadwyn Clwyd, “Mae adeiladu’r maes parcio gwych hwn wedi creu gwir ymdeimlad o le sy’n croesawu ymwelwyr ac yn cysylltu pobl yn syth gyda’r dirwedd a’i hanes cyffrous.”

Dywedodd Erin Robinson, Swyddog Dehongli Grug a Bryngaerau, “Mae Coed Llangwyfan yn lle gwych i gychwyn ar ein hymweliad ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd ac roeddem eisiau sicrhau bod pobl yn gallu cysylltu â threftadaeth y dirwedd cyn gynted ag yr oeddynt yn cyrraedd – sef yn y maes parcio!

“Mae yna lwybrau wedi’u marcio ar gyfer archwilio’r goedwig ac mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn arwain ymwelwyr i’r de tuag at fryngaer Moel Arthur, sy’n dyddio o Oes yr Haearn, a Pharc Gwledig Moel Famau. I’r gogledd, gall ymwelwyr brofi llwybr treftadaeth rhyngweithiol sy’n dod â hanes bryngaer Penycloddiau yn fyw.

“Gall ymwelwyr gyrchu pwyntiau sain ar hyd y ffordd drwy eu ffonau symudol neu gallant lawrlwytho fersiwn mp3 ddi-dâl o’r wefan Grug a Bryngaerau ymlaen llaw.”

Meddai Carolyn Thomas, Cadeirydd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, “Mae’r gwaith cerrig a’r tirlunio wedi gwella golwg yr ardal. Mae dyluniad y maes parcio bellach yn adlewyrchu treftadaeth yr ardal yn uniongyrchol, yn enwedig y bryngaerau hynafol sydd i’w gweld mor amlwg ar hyd Bryniau Clwyd.”

I gael rhagor o wybodaeth am Goed Llangwyfan, ac i gael cyfarwyddiadau, ewch i wefan Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn www.forestry.gov.uk/wales. I lawrlwytho’r llwybr sain, ewch i www.heatherandhillforts.co.uk.

NODIADAU I OLYGYDDION

Mae tua 14% o dir Cymru dan goed. Mae 38% (126,000 hectar / 311,000 erw) o hyn yn eiddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran coedwigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n rheoli’r coetiroedd hyn ar ei rhan.

Y Prosiect Grug a Bryngaerau, sy’n werth £2.3 miliwn, oedd y Cynllun Partneriaeth Tirwedd cyntaf yng Nghymru. Sefydlwyd y prosiect pum mlynedd gyda chyllid o £1.5 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, arian cyfatebol gan Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Cadw, a Chyllid Ewropeaidd drwy law Cadwyn Clwyd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Erin Robinson, Swyddog Prosiect, ar 01352 811013 neu anfonwch e-bost at Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. .

Cefnogir y prosiect gan Asiantaeth Datblygu Gwledig Cadwyn Clwyd.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru yr UE a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gan ddefnyddio arian a godwyd drwy’r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cynnal a gweddnewid amrywiaeth fawr o safleoedd treftadaeth i alluogi  cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol i gymryd rhan ynddynt, dysgu amdanynt a’u mwynhau. Rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o’n treftadaeth amrywiol, yn amrywio o amgueddfeydd, parciau a mannau hanesyddol i archaeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cefnogi dros 28,000 o brosiectau ac wedi rhannu dros £4.3 biliwn ar draws y DU, gan gynnwys dros 1,800 o brosiectau’n werth cyfanswm o £200 miliwn yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.hlf.org.uk.