Gweithgaredd all-ffordd anghyfreithiol - meddiannu beic Argraffu Ebost
Ymunodd staff  prosiect y Grug a’r Caerau gyda swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, y Cyngor Cefn Gwlad a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru ar Dydd Sul Ionawr y 30ain yn eu gweithgaredd gyntaf yn gysylltiedig â cherbydau all-ffordd yn 2011.

Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol, cafodd 5 perchennog beic rybudd rhan 59 oherwydd eu bod wedi gwyro o lwybr cyfreithiol ger Cynwyd. Saif y beicwyr hyn i golli ei beic os y byddant yn cael eu dal oddi ar lwybrau cyfreithiol yn y dyfodol. Yn hwyrach yn y pnawn meddiannwyd 3 beic gan yr Heddlu yn Nantyr. Roedd y beiciau yn cael eu gyrru heb drwydded, MOT ac yswiriant ar ffordd y sir rhwng Glyndyfrdwy a Nantyr. Mae y 3 gyrrwr bellach yn wynebu pwyntiau ar eu trwydded a chosb ariannol llym, yn ogystal a cholli eu beic.

Byddwn ynghlwm gyda mwy o gynlluniau tebyg yn ystod y flwyddyn, gyda’r bwriad o ddal a chosbi yr rhai hynny sydd yn benderfynol o niweidio yr ucheldir, gan gynnig cyngor i’r rhai hynny sydd yn frwd i feicio neu yrru yn gyfreithiol.