Yn ystod y penwythnos, fe ymgasglodd 350 o bobl ar ddeg o wahanol fryngaerau yng Nghymru a Lloegr i gymryd rhan yn yr arbrawf ‘Llewych y Caerau’. Mae’r bryngaerau’n glostiroedd amddiffynnol enfawr o law dyn sy’n dyddio’n ôl yn gyffredinol i’r Oes Haearn, oddeutu 2500 o flynyddoedd yn ôl. Hyd yn oed ar ôl eu cloddio, mae eu swyddogaeth yn parhau’n ddirgelwch gan nad oes gennym unrhyw ffynonellau ysgrifenedig yn dyddio o’r cyfnod hwnnw.
Mae yna lawer o fryngaerau yng ngogledd ddwyrain Cymru a Swydd Caer a hynny’n ei gwneud yn dirwedd hanesyddol bwysig iawn. Mae yna ddau gynllun Partneriaeth Tirwedd Tirlun ar hyn o brydd wedi eu hariannu gan y Loteri Dreftadaeth yng ngogledd ddwyrain Cymru ac yn Swydd Caer i ofalu am chwech o’r bryngaerau hyn yr un. Fe drefnwyd yr arbrawf Llewych y Caerau gan Brosiectau’r Grug a’r Caerau a’r Habitats and Hillforts ar y cyd i brofi a oedd y bryngaerau’n gallu cyfathrebu rhwng y naill a’r llall gyda help gwirfoddolwyr lleol yn defnyddio golau. Dywedodd Erin Robinson, archeolegydd a chyd-drefnydd yr arbrawf: “Fe ryddhaodd pob bryngaer fflêr ar eu hamser penodedig ac yna roedd yn rhaid iddyn nhw ddisgleirio eu tortshis ar fryngaerau eraill wrth iddyn nhw ddisgleirio eu goleuadau’n ôl atyn nhw i wneud y cysylltiad. Drwy ofyn i’r cyhoedd gymryd rhan, roedd yr holl dortshis efo’i gilydd yn gwneud i bob bryngaer ‘ddisgleirio’ yng ngolau’r lleuad ac roedden ni’n gallu gwneud mwy o gysylltiadau nag yr oeddem wedi dychmygu - roedd rhai nad oedden ni’n siŵr ohonyn nhw yn bosibl hyd yn oed yng ngolau dydd”. Fe ddefnyddiwyd tortshis pwerus i arwyddo i fryngaerau eraill yn hytrach na ffaglau tân sydd wedi eu defnyddio yn y gorffennol ar gyfer digwyddiadau arbennig oherwydd y cynefinoedd rhyngwladol brin y mae’r bryngaerau ynddyn nhw’n awr. Mae oddeutu traean o boblogaeth rhostir y byd yn y Deyrnas Unedig ac mae’n gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn cynnwys un o adar prinnaf Cymru, y rugiar ddu. Fe wnaethpwyd cysylltiadau a oedd yn cyrraedd bryngaerau a oedd dros 40km i ffwrdd oddi wrth ei gilydd ac i’r cyhoedd yr oedd y diolch am hyn i gyd am roi o’u hamser i helpu i ddisgleirio eu goleuadau ar bennau’r bryniau. Dywedodd Rheolwr Prosiect y Grug a’r Caerau a chyd-drefnydd y digwyddiad, Ellie Soper: “Roedd ymateb y cyhoedd i wirfoddoli yn yr arbrawf hwn yn anhygoel ac roedd wedi ei fwcio’n llwyr yn fuan iawn. Fe ymunodd rhai pobl â ni ar y ffordd, fe stopiodd pobl a oedd yn mynd â’u cŵn am dro i ymuno wrth iddyn nhw fynd heibio ac fe drefnodd un tŷ tafarn daith dywys i wylio’r arbrawf fel y gellid cynnwys mwy o bobl. Rydyn ni’n dal i gyfri’r niferoedd i gyd ond rydyn ni’n hyderus fod dros 350 o bobl wedi cyfranogi. “Yr adborth a gawson ni hyd yma yw bod pobl wedi ymgysylltu’n wirioneddol â’r clostiroedd hynafol. Dim ond wrth weld golau ar ben bryn cymdogol roedd pobl yn teimlo synnwyr o gymuned a chysylltiad gyda’r bryngaerau eraill a’r bobl a oedd yn anfon arwydd yn ôl atyn nhw. Mae’r cysylltiad hwn yn anodd ei esbonio gan ei fod yn emosiynol yn ogystal ag yn gorfforol, ond yn sicr roedd yn teimlo fel pe bai’r bryngaerau hyn yn perthyn i’w gilydd.” Fe ychwanegwyd at awyrgylch y digwyddiad gan y Lleuad Ardderchog a gododd dros y bryngaerau yn ystod yr arbrawf. Roedd hynny’n golygu fod pellter y lleuad yn ei safle agosaf at y ddaear, y ffenomen hon yn digwydd dim ond unwaith bob 18 mlynedd. Roedd y penwythnos hefyd yn ddyddiad Cyhydnos y Gwanwyn ac fe fyddai’r dyddiad hwnnw wedi bod yn ddyddiad pwysig yng nghalendr yr Oes Haearn. I gloi dywedodd Erin, “Er nad ydym yn siŵr a yw’r bryngaerau hyn i gyd yn dyddio o’r un amser, hyd yn oed os ydyn nhw i gyd yn dyddio o’r Oes Haearn, mae hynny’n dal i fod yn gyfnod o 800 mlynedd felly efallai na chawson nhw i gyd eu hadeiladu neu eu defnyddio’r un pryd, roedd yr arbrawf yn amlygu’r ardal oherwydd ei chyfoeth o fryngaerau a’u hagosrwydd. Wyddon ni ddim a fydden nhw wedi anfon arwyddion at ei gilydd, wyddon ni ddim hyd yn oed a oedden nhw’n ffrindiau neu’n elynion, ond fe allwn gasglu’n sicr fod y mannau arbennig hyn ag ystyr arbennig i ni 2,500 o flynyddoedd ar ôl iddyn nhw gael eu hadeiladu ac mae meddwl y gallai ein cyndadau ni’n hunain fod wedi edrych allan ar fryngaerau eraill yr holl flynyddoedd hynny’n ôl yn sicr yn gwneud i’r bryniau a’r bryngaerau ddisgleirio yn ein dychymyg.” Fe gynhaliwyd yr arbrawf ar ddydd Sadwrn, Mawrth 19eg. Fe’i trefnwyd gan Brosiect y Grug a’r Caerau yng ngogledd ddwyrain Cymru a Phrosiect Habitats and Hilfforts Caer gan ddefnyddio’r deg bryngaer ar y Sandstone Ridge, Bryniau Clwyd, Mynydd-y-Gaer Corwen, Mynydd Helygain a’r Wirral ym mryngaerau: Castell Maiden (Bickerton Hill), Castell Beeston, Kelsborrow, Helsby Hill, Burton Point, Moel y Gaer Rhosesmor, Penycloddiau, Moel Arthur, Moel Fenlli a Chaer Drewyn. Mae diolch arbennig i Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Sir Fflint, RSPB, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, English Heritage yn ogystal â’r gwirfoddolwyr lleol a gyfranogodd i wneud yr arbrawf hwn yn bosib. Gellir cael manylion pellach am Lewych y Caerau ar wefan Prosiect y Grug a’r Caerau www.heatherandhillforts.co.uk a hefyd ar wefan yr Habitats and Hillforts Project sydd newydd ei lansio - www.habitatsandhillforts.co.uk. Mae gwybodaeth am y digwyddiadau i’w chael hefyd drwy chwilio am ‘Hillfort Glow’ neu ‘Heather and Hillforts’ ar Facebook Mae’r Grug a’r Caerau a’r Habitats and Hillforts yn Gynlluniau Partneriaeth Tirwedd a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
|