| Diwrnod Adnabod Darganfyddiadau Daeareg ac Archeoleg |
|
|
|
Ydych chi wedi dod o hyd i eitem ddiddorol sy’n edrych fel pe gallai fod ag arwyddocâd hanesyddol? Ar ddydd Iau, Gorffennaf 21ain rhwng 11.00 a.m. a 3 p.m, fe fydd yna gyfle i chi ddod â’ch darganfyddiadau i Barc Gwledig Loggerheads lle bydd yna dîm o archeolegwyr a daearegwyr yn barod i roi cynnig ar eu hadnabod. Felly os ydych chi wedi ffeindio hen ddarn arian neu ffosil, dewch â nhw draw a bydd y tîm yn fwy na bodlon ceisio olrhain tarddiad eich eitem. Mae Loggerheads yn gyfoethog o Archeoleg a Daeareg. Mae’r safle wedi ei ddefnyddio mewn llawer o wahanol ffyrdd yn y gorffennol fel mwynglawdd plwm, er enghraifft, yn yr 19g. Mae’r safle’n gorffwys ar garreg galch helaeth sydd wedi ei dyddio i 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl sy’n golygu, er ei fod yn anodd ei ddychmygu, bod yr ardal hon dan ddŵr 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl, felly mae’n lle priodol i olrhain y pethau’r ydych chi wedi eu ffeindio. Dywedodd Jacqui Malpas, daearegwr efo Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd: “Mae daeareg yr ardal yma’n hudolus yn dyddio’n ôl filiynau o flynyddoedd. Dewch â’r holl gerrig yna’r ydych chi wedi bod yn eu casglu neu arteffactau’r ydych wedi eu ffeindio ac fe fyddwn ni’n siŵr o geisio eu hadnabod nhw.” I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â Fiona Gale, Archeolegydd Sir Ddinbych ar 01824 708262 |










