Teithiau Sain Treftadaeth ar Lwybrau Bws 76 ac 14

Llwybrau Bws 14 (Yr Wyddgrug-Dinbych) a 76 (Dyffryn Clwyd) ar gael ar y bws. Gellir eu lawrlwytho ar eich ffôn gan ddefnyddio Bluetooth!

Os yw eich ffôn symudol â chysylltiad Bluetooth, bydd negeseuon yn cael eu hanfon i’ch ffôn yn gofyn a ydych eisiau derbyn trosglwyddiad ffeil taith sain treftadaeth.
Mae yna ddwy daith: un yn Gymraeg ac un yn Saesneg. Fe ofynnir i chi ddwywaith a ydych chi am dderbyn trosglwyddiad ffeil - unwaith ar gyfer ffeil Saesneg ac unwaith ar gyfer ffeil Gymraeg. Os na fydd eich ffôn yn gadael i chi wahaniaethu rhwng ffeiliau’r gwahanol ieithoedd gallwch dderbyn y ddau ac yna ddileu’r iaith nad oes arnoch ei hangen. Os byddwch yn penderfynu gwrthod y daith sain yn gyfan gwbl, ni ofynnir i chi eto.


Fe fydd yn cymryd ychydig funudau i drosglwyddo’r ffeiliau sain, yn dibynnu ar ba fath o ffôn sydd gennych chi. Mae’n debyg y gwnaiff eich ffôn fflachio tra bydd y trosglwyddiad yn digwydd.
Unwaith y bydd wedi ei drosglwyddo, bydd y ffeil yn cael ei safio yn ffolder ‘seiniau’ eich ffôn fel rheol, i chi eu mwynhau pryd bynnag y mynnwch chi, hyd yn oed os na fydd yna signal ar eich ffôn.
Gallwch wrando ar y daith gyfan i gyd ar unwaith neu ddefnyddio’r rheolyddion am eich ffôn i sgipio i'r adran mae gennych ddiddordeb ynddi.

Cliciwch fotwm de eich llygoden ar y rhifau isod a chlicio 'save target as' er mwyn llwytho i lawr y Pwyntiau Sain i’ch cyfrifiadur.

  llinell amser timeline.mp3

  rhostir moorland.mp3

  y bywyd gwyllt wildlife.mp3

  moel famau welsh.mp3

  bryngaerau hillforts.mp3