Y Daith Ganoloesol gan Nick Argraffu Ebost

Am ryw reswm neu’i gilydd, wn i ddim yn iawn pam, fi oedd yr un a gododd ei law yn y cyfarfod i ddangos mod i’n awyddus i ymuno a grŵp Cwmwd Iâl a gwisgo mewn dillad canoloesol i gerdded o Foel Arthur i Loggerheads heibio Twr y Jiwbilî. Meddyliais nad y daith saith milltir fyddai rhan fwyaf anodd y diwrnod, ond ofn ynghylch yr esgidiau gwadnau lledr roedd pawb yn fy atgoffa i amdanyn nhw.

nick_knightRoedd dydd Sadwrn, Gorffennaf 18 yn fore sych - newyddion gwych o ystyried y dillad oedd yn amsugno’r glaw roedd rhaid imi’u gwisgo. Yr unig ddillad cysurus, cyfoes oedd dillad isaf a sanau a photel o ddŵr wedi’i chuddio mewn bag wedi’i weu, ac wrth gwrs y ffôn symudol hanfodol (yn y grŵp o 28, dau yn unig oedd yn cario ffôn ar gyfer Iechyd a Diogelwch). Roedd y dillad Eingl-sacsonaidd o wlân a lliain sef clos, sanau wedi’i lapio o gwmpas fy nghoesau, gwisg isaf a thiwnig uchaf, cwfl, bwcl, gwregys, dagr, tarian a helmed.

Rhan gyntaf y daith oedd y dring i fyny Allt John o faes parcio Moel Arthur. Dyma rhan fwyaf serth y daith ac yn rhy serth i’r poni pwn a’r ddau geffyl arall a gymerodd lwybr arall cyn ymuno â ni ar lwybr Llangynhafal lle gwelsom Sam yn y tryc cymorth am y tro cyntaf. Wrth ddringo, roeddem yn dechrau deall pa mor gynnes oedd y dillad, yn llawer cynhesach na dillad cerdded heddiw ac yn drymach. Cafodd y rhai oedd yn cerdded Llwybr Clawdd Offa syndod wrth ddigwydd ein cyfarfod ar y llwybr. 

Copa Moel Dywyll oedd ein lle cinio, ac yma cawsom olygfeydd gwych i lawr Bryniau Clwyd. Roedd y bwyd yn fwyd y cyfnod hefyd; bara, caws, ham, fflapjacs a chnau wedi’i lapio mewn clwtyn,  roedd y deisen geirch wedi’i lapio mewn dail – blasus iawn.

Wrth inni agosáu at Foel Famau roeddwn yn dechrau blino ac yn teimlo braidd yn  anghyfforddus oherwydd pwysau’r bwyd a’r dŵr a’r dagr ar fy melt oedd yn pwyso ar fy nghluniau. Ond, yn rhyfedd iawn, roedd yr esgidiau’n gyfforddus. Cawsom seibiant ar Dwr y Jiwbilî ac yna roedd criw newyddion yn cyfweld â Sam ( roedden nhw’n digwydd bod ar Foel Famau’n ffilmio rhywun yn chwarae pwl!). Cafodd nifer o luniau’u tynnu.

knights_at_towerRoedd pawb wedi meddwl byddai’r llwybr i lawr drwy’r coed yn rhan hawdd o’r daith, ond erbyn hyn roedd gwaelod fy nhraed yn dechrau brifo oherwydd nad oedd fy esgidiau’n cynnal y fferau’n rhy dda. Roedd y rhan drwy’r coed yn waith caled wrth i’r gwres gynyddu a’r gwynt godi, a ninnau’n dechrau colli egni. Roeddem yn rhannu’r baich erbyn hyn am fod y wisg ddur yn achosi problem inni. Cefais fy hun yn cario gwaywffon fawr am weddill y daith yn ôl i Loggerheads.

Yn ôl yn Loggerheads, cawsom groeso gan y dorf oedd wedi bod yn mwynhau diwrnod llawn o weithgareddau a difyrrwch. Mwynheais fy mhrofiad o fod yn filwr Eingl-sacsonaidd am y diwrnod ac yn falch o’r cyfle, ond yn hapus iawn o gael gwisgo esgidiau gyda gwadnau cyfforddus a phâr o jîns a chrys T unwaith eto.