Archeoleg Ardderchog, Plas Newydd Llangollen gan Fiona Argraffu Ebost

Dydd Sul Gorffennaf 26, hanner ffordd trwy bythefnos Gŵyl Archeoleg Prydain, oedd diwrnod “Archeoleg Ardderchog”. Cyfle oedd hwn i bobl ddysgu mwy am Archeoleg Amgylcheddol a gwaith yr archeolegydd. Yn gyntaf roedd y tywydd yn dda felly dechreuon ni tu allan i’r Caban ym Mhlas Newydd, ond dechreuodd y glaw a gorfodwyd ni i fynd tu mewn. Roedden ni’n meddwl na chaem ni ymwelwyr ond nid felly digwyddodd hi!

Cafodd y bobl ifanc a’u teuluoedd gyfle i hidlo pridd a chanfod hadau, cnau a malwod, sydd i gyd yn gliwiau am amgylchedd y gorffennol. Er enghraifft mae malwod yn ffysi ble maen nhw’n byw, fydd malwen y coed ond yn byw lle mae coed. Felly os gwelwch falwen y coed ar eich safle archeolegol mewn pridd sy’n dyddio nôl i gyfnod y Rhufeiniaid yna gallwch ddweud y bu'r safle yn goedlan pan oedd y Rhufeiniaid yn byw yno hyd yn oed os nad yw bellach.

Roedd helfa drysor fawr o amgylch tiroedd Plas Newydd hefyd, roedd y cliwiau (a guddiwyd yn y coed) am yr offer a ddefnyddiai archeolegwyr a’r math o bethau a ganfyddir wrth gloddio. Roedd enghreifftiau yn y Caban hefyd, felly gallai pobl weld trowel yr archeolegydd neu’r crochenwaith a ganfyddir. Tu mewn i’r Caban yn ogystal â’r gweithgareddau, roedd arddangosfa Y Grug a'r Caerau yn arddangos eitemau ……….. hefo mynyddoedd Llantysilio tu cefn i ni

Erbyn diwedd y dydd roedd Sam, Sarah, Rhun a minnau’n teimlo ein bod wedi cael diwrnod ardderchog - tua 60 o bobl ifanc wedi dod er gwaethaf y tywydd gwael ………….ac roedd y nifer o ymwelwyr yn uwch hefyd, bonws ychwanegol!