| Arfau, Artefacts a Gweithredoedd! gan Samantha |
|
|
|
Teitl y gweithgaredd yn y Carchar oedd Arfau, Artefacts a Gweithgareddau a gwelwyd tîm Y Grug a'r Caerau sef Sam ac Erin hefo Sarah Pevely, Archeolegydd Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru, grŵp o hyrwyddwyr a Dave a Kathy o “Ancient Arts”. Bu’r tywydd yn braf a heulog a chafwyd llinell uniongyrchol o ymwelwyr yn cyffwrdd ac yn dysgu am wrthrychau’r gorffennol. Roedd pobl yn gallu malu grawn ar gerrig i wneud blawd, cael cyfle i wneud breichled o ddalon poethion neu wneud rheffyn o fwyaren! Cyffwrdd cleddyfau o oes yr Haearn, cleddyfau Rhufeinig a Sacson a hyd yn oed ddyfalu beth yw ein heitem gudd - sef offer eillio o oes y Rhufeiniaid! |



Orielau 

Mae’r gweithgareddau yn y Carchar Rhuthun yn nodi’r olaf mewn cyfres o weithgareddau a gynhaliwyd dros Ŵyl Archeoleg Prydain. Bu’r pythefnos yn llwyddiant mawr ac mae’r gweithgareddau wedi helpu i ddangos hanes amrywiol yr ardal.




